Mater - cyfarfodydd

Update on Alltami Depot Stores

Cyfarfod: 08/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 29)

29 Diweddariad ar Storfa Depo Alltami pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I roi gwybod i Craffu o’r rheolaethau yn eu lle i reoli’r storfeydd depo yn Alltami.  Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar gynnydd yn dilyn yr adroddiad ym mis Chwefror 2020. 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau adroddiad i roi diweddariad ar y cynnydd yn dilyn adroddiad blaenorol a gyflwynwyd gerbron y Pwyllgor ym mis Chwefror 2020 yn unol ag argymhellion y Pwyllgor.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at ddatblygu system rheoli stoc electronig newydd gyda’r nod o symleiddio materion yn ymwneud â rheoli stoc a rhoi mwy o atebolrwydd a swyddogaethau adrodd.  Y disgwyl oedd y byddai’r system newydd yn weithredol erbyn diwedd mis Mawrth 2021 ac yn y cyfamser byddai’r gwaith o reoli stoc yn parhau i gael ei gyflawni ar system bapur i sicrhau bod yr holl eitemau stoc yn cael eu cyflenwi a’u cofnodi ar y system Tranman. 

 

Hefyd, cyflwynodd y Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau adroddiad ar y gwaith a wnaed i nodi lleoliad yr holl beiriannau ac offer, gan gynnwys offer a gedwir ar safleoedd pell, a dywedodd fod rhestr eiddo ganolog o’r holl beiriannau yn cael ei diweddaru’n ddyddiol a bod yr holl eitemau’n cael eu cofrestru a’r defnydd ohonynt yn cael eu hawdurdodi gan Oruchwylwyr. Fel rhan o’r gwaith hwn, esboniodd fod y gwasanaeth wedi defnyddio gr?p o gydrannau caledwedd a meddalwedd a oedd yn golygu bod modd casglu, trefnu, a dadansoddi data yngl?n â risgiau i iechyd o ddirgryniad llaw-braich (HAV:Hand Arm Vibration) yn gysylltiedig â’r defnydd o offer dirgrynol. Roedd y feddalwedd yn sicrhau bod y Cyngor yn glynu at ofynion cyfreithiol ym maes iechyd a diogelwch yn y gweithle, a bod modd pennu maint dirgryniadau sy’n cynrychioli’r gwir allyriadau dirgyniad sy’n gymwys wrth ddefnyddio offer. 

 

Dywedodd y Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau fod cynllun gweithredu (a oedd ynghlwm â’r adroddiad) wedi cael ei gyflwyno i sicrhau bod trefniadau a phrosesau gwaith yn dal i gael eu dilyn yn y Gwasanaeth a chyfeiriodd at y camau gweithredu allweddol a nodir yn yr adroddiad. 

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Christopher Dolphin ac eiliwyd gan y Cynghorydd Paul Shotton.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y trefniadau gwaith parhaus yn storfeydd depo Strydlun a Thrafnidiaeth yn cael eu nodi a bod y camau a gymerwyd i reoli defnyddiau, peiriannau ac offer a gedwir yn y storfeydd yn cael eu cefnogi.