Mater - cyfarfodydd

North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal

Cyfarfod: 12/11/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 27)

27 Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – Bargen Dwf Derfynol pdf icon PDF 168 KB

Pwrpas:        Ystyried Cytundeb Llywodraethu 2 a Chytundeb Bargen Derfynol ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru cyn i’r Cabinet ei gymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i ystyried y dogfennau allweddol gofynnol i gyrraedd Cytundeb Bargen Terfynol ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, cyn i’r Cabinet ei gymeradwyo. Roedd y dogfennau yn cael eu cyflwyno i’r holl bartneriaid i’w cymeradwyo i ffurfioli eu hymrwymiad cyfreithiol i Gytundeb y Fargen Derfynol.

 

Ers mabwysiadu Cytundeb Llywodraethu 1, roedd Cytundeb Llywodraethu 2 wedi ei ddatblygu i gynnwys cyd-fuddiannau a risgiau’n ogystal â threfniadau cydgyllido. Yn Sir y Fflint, roedd yr adroddiad wedi ei gefnogi gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd ac Economi yn gynt yn yr wythnos yn dilyn gweithdy i’r holl Aelodau a gynhaliwyd yn flaenorol. Roedd y Cytundeb yn cynnwys darpariaethau ar swyddogaethau gweithrediaeth a swyddogaethau anweithredol, yr oedd angen cymryd penderfyniadau ar wahân arnynt gan y Cabinet a’r Cyngor Sir ar 17 Tachwedd 2020. Byddai adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael ei adrodd i’r cyfarfodydd hynny.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr eglurder ar y ddau ffurf o ymrwymiad ariannol ar gyfer y Cyngor oedd yn cynnwys cyfraniadau refeniw oedd eisoes wedi eu hadeiladu i’r gyllideb sylfaenol a goblygiadau refeniw cyfalaf benthyca i hwyluso’r llif arian negyddol ar gyfer y Fargen Dwf. Byddai angen cyfraniadau blynyddol o rhwng £100,000 ac £140,000 gan Sir y Fflint ar gyfer yr olaf, er mwyn cael mynediad at £240 miliwn o gyfalaf gan y ddwy Lywodraeth i ariannu’r Fargen Dwf dros 15 mlynedd. Roedd hyn yn cael ei ystyried yn ddull gweithredu fforddiadwy ar gyfer y Cyngor yng nghyd-destun y Strategaeth Ariannol Tymor Canol. Roedd arweinyddiaeth yr holl bartneriaid wedi ymrwymo i’r Cytundeb a phe byddai’n cael ei lofnodi erbyn 17 Rhagfyr, byddai’n golygu y gellid cael mynediad at gyfalaf yn y flwyddyn gyfredol.

 

Cymharodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ddarpariaethau y Cytundeb gyda rhai partneriaethau rhanbarthol cyfredol eraill. Rhoddodd drosolwg o’r model llywodraethu gan gynnwys darpariaeth i bob partner gadw rheolaeth dros y lefel o adnoddau roedd yn ei gyfrannu.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ei fod yn fodlon gyda’r ystyriaethau ariannol y mae’n eu hystyried yn ddarbodus ar brosiect o’r maint hwn i gyflawni rhaglenni yn y blynyddoedd cynnar.  Gan ategu sylwadau’r Prif Weithredwr ar yr ymrwymiadau ariannol, dywedodd y byddai angen adeiladu’r cyfraniadau blynyddol ychwanegol i gyllideb 2021/22.

 

Talodd y Cynghorydd Dunbobbin deyrnged i’r Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor a’i ragflaenydd, y Cynghorydd Aaron Shotton, am eu holl waith ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.  Gan ganmol yr adroddiad, dywedodd y byddai mwy o eglurder yn y geiriad o gymorth i godi ymwybyddiaeth o’r manteision. Gan siarad am gymhlethdod y Cytundeb, dywedodd y Prif Weithredwr bod amrywiaeth o wybodaeth ar gael ar wefan y Bwrdd Uchelgais Economaidd ac y byddai cyflwyniad fydd yn cael ei roi i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd ac Economi yn cael ei gylchredeg. Ymatebodd i gwestiynau eraill yn amlygu ymrwymiad yw holl bartneriaid a’r broses o greu prosiectau newydd o fewn y Fargen Dwf. O ran cysylltedd digidol, cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i gylchredeg gwybodaeth ar  ...  view the full Cofnodion text for item 27