Mater - cyfarfodydd

Theatr Clwyd Transfer Proposal Report

Cyfarfod: 05/11/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 18)

Model Cyflenwi Amgen Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd hyd yma ar y rhaglen i drosglwyddo Theatr Clwyd a Gwasanaethau Cerdd o reolaeth y cyngor i fodel ymddiriedolaeth elusennol a chynnig amserlen a thelerau trosglwyddo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr y sefyllfa ddiweddaraf a thelerau ac amserlen arfaethedig ar gyfer trosglwyddo gweithrediadau'r theatr a gwasanaethau cerddoriaeth i ymddiriedolaeth elusennol annibynnol fel y manylir yn yr adroddiad.

 

            Amlinellodd Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd ei gefnogaeth i’r trosglwyddiad a rhoddodd fanylion y gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd i ateb yr heriau mewn ymateb i’r sefyllfa argyfyngus.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn am gostau gwasanaeth cerdd i ysgolion, esboniodd y Cyfarwyddwr Gweithredol bod gwaith wedi cael ei wneud i sicrhau bod y model gwaith newydd yn gostwng costau'r gwasanaeth cerdd i ysgolion yn y tymor hir.  Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod y cynigion newydd yn cael cefnogaeth lawn gan ysgolion.

 

            Mewn ymateb i awgrym gan Mr. David Hytch y dylai’r undebau llafur gael cynrychiolydd ar y Bwrdd, cytunodd y Cyfarwyddwr Gweithredol fynd â’r awgrym hwn yn ôl i’r Bwrdd Cysgodol i’w drafod.

 

            Cytunwyd hefyd bod copi o atodiadau adroddiad y Cabinet yn cael eu cylchredeg i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod gan nad oeddent wedi’u cynnwys yn yr Agenda.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod cynnydd y gwaith o drosglwyddo Theatr Clwyd a’r Gwasanaeth Cerdd i gorff elusennol newydd ar 31 Mawrth yn galonogol i’r Pwyllgor;

 

(b)          Bod Bwrdd Cysgodol y corff newydd sy’n creu cytundeb ffurfiol ar gyfer trosglwyddo yn cael ei gefnogi;

 

(c)          Bod egwyddorion trosglwyddo, fel y nodir yn adroddiad y Cabinet a ddangosir yn Atodiad 1, yn cael ei gefnogi;

 

(d)          Bod y cynigion penodol i drosglwyddo fel fframwaith ar gyfer cytundeb contract gwasanaeth, fel y nodir yn adroddiad y Cabinet yn Atodiad 1, yn cael ei gefnogi; a

 

(e)          Bod yr adborth gan y Pwyllgor yn cael ei ddarparu i’r Cabinet fel rhan o’r adroddiad llawn a therfynol ar ddiwydrwydd dyladwy, penderfynu unrhyw fanylion sy'n weddill ar gyfer y cytundeb contract gwasanaeth a'r cynnig ffurfiol gan y Bwrdd Cysgodol.