Mater - cyfarfodydd

Project Search update

Cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 16)

16 Y wybodaeth ddiweddaraf am Project Search pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar lwyddiant interniaethau Project Search y llynedd a darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gohort y flwyddyn nesaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr:Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion, adroddiad i roi diweddariad yngl?n â llwyddiant interniaid y llynedd ar Brosiect Search a darparu gwybodaeth yngl?n â chohort y flwyddyn nesaf. Eglurodd fod Prosiect SEARCH yn rhaglen gaiff ei chydnabod yn rhyngwladol gan ei bod wedi ymrwymo i greu gweithlu ymroddgar sy’n cynnwys pobl ag anableddau. Cynlluniwyd Prosiect SEARCH fel rhaglen interniaeth naw mis di-dal sy’n gosod interniaid (pobl ifanc rhwng 18-24 sydd ag Anabledd Dysgu) mewn amgylchiadau gwaith go iawn ble byddan nhw’n dysgu pob agwedd ar sicrhau a chadw swydd.  Mae cyfres o dri interniaeth sy’n para am 10-12 wythnos yn galluogi interniaid i archwilio gyrfaoedd a datblygu sgiliau gwaith gwerthadwy. Mae’r interniaid yn derbyn cefnogaeth gan fentoriaid adrannol, hyfforddwyr sgiliau, a chymhwyso ac addasu’r gweithle. Y nod ar gyfer pob unigolyn yw sicrhau gwaith cystadleuol yn eu cymuned ac mae nifer o'r interniaid wedi cael cyflogaeth am dâl yn Sir y Fflint.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr am gynlluniau wrth symud ymlaen i’r dyfodol. Dywedodd, wrth baratoi ar gyfer ail flwyddyn Prosiect SEARCH, eu bod yn chwilio ac yn sicrhau nifer o gyfleoedd newydd am interniaeth. Roedd y Gwasanaeth hefyd yn cwmpasu datblygu rhaglen i gefnogi pobl dros 25 mlynedd allai fod wedi methu â chael mynediad at gyfle yn y gorffennol.  Dywedodd mai hon fyddai'r rhaglen gyntaf o'i bath yn Ewrop.

 

Siaradodd y Cynghorydd Christine Jones i gefnogi’r Prosiect a dywedodd fod y bobl ifanc wedi mwynhau eu cyfnod ar y rhaglen yn fawr iawn, a’u bod wedi ennill hyder a phrofiad drwy’r amrywiaeth o gyfleoedd y cawsant fod yn rhan ohonynt. Dywedodd fod Prosiect SEARCH yn Sir y Fflint yn cael ei ddarparu rhwng Cyngor Sir y Fflint, Hft, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Choleg Cambria, a mynegodd ei diolch am waith caled ac ymroddiad pawb fu’n gysylltiedig.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Carol Ellis faint o bobl ag anabledd dysgu oedd wedi eu cyflogi’n uniongyrchol gan Gyngor Sir y Fflint a hefyd wedi eu cyflogi yn ardal Cyngor Sir y Fflint. Cytunodd yr Uwch Reolwr y byddai’n darparu’r wybodaeth i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.    

 

Gwnaeth y Cynghorydd Gladys Healey sylw mai dim ond 2% o bobl ifanc ag anabledd dysgu yng Nghymru oedd mewn cyflogaeth am dâl, a dywedodd fod angen annog cyflogwyr i wneud mwy i helpu pobl ddod o hyd i waith.  Adroddodd yr Uwch Reolwr ar y cynnydd a wnaed hyd yma gyda chyflogwyr lleol, gan nodi cyflogaeth ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy fel enghraifft, a dywedodd fod cyflogwyr yn awyddus i gefnogi pobl ag anableddau dysgu.   

 

Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Paul Cunningham y gellid cysylltu â Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy, cytunwyd, yn dilyn y cyfarfod y byddai’r uwch Reolwr yn gofyn am ddiweddariad gan Gadeirydd Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy ac yn gwneud cais am gefnogaeth bellach i’r dyfodol. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Dave Mackie ei werthfawrogiad i’r Prif Swyddog, Uwch Reolwyr a’u timau am eu gwaith arloesol wrth fentro ar gynlluniau newydd i gefnogi a datblygu pobl o fewn y  ...  view the full Cofnodion text for item 16