Mater - cyfarfodydd

Children’s Transformation Project Update

Cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 15)

15 Y wybodaeth ddiweddaraf am y Prosiect Gweddnewid Plant pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod am gynnydd, a’r cynlluniau cyflenwi i’r dyfodol, ar gyfer Brosiect er mwyn sicrhau newid trawsffurfiol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu adroddiad ar gynnydd a chynlluniau’r dyfodol ar gyfer prosiect i sicrhau newidiadau trawsnewidiol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Dywedodd fod Gogledd Cymru wedi sicrhau £3m o arian grant ar gyfer Rhaglen Drawsnewid ranbarthol ar gyfer gofal cymdeithasol i blant. Gan weithio ar batrwm rhanbarthol, cyflwynwyd y rhaglen ar sail Ardal. Roedd prosiect Ardal y Dwyrain yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint, Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Bwrdeistref Wrecsam. Eglurodd yr Uwch Reolwr y byddai’r prosiect yn helpu rhieni ag anghenion iechyd meddwl isel/cymedrol; dod â staff iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd i gynnig asesiad dwys a chefnogaeth therapiwtaidd i bobl ifanc nad oeddent yn cyrraedd y trothwy ar gyfer CAMHS ond eu bod yn dangos anghenion sylweddol ac angen cefnogaeth; a datblygu Cartref Gofal preswyl lleol i fodloni anghenion pobl ifanc tra roeddent yn ceisio aduno gyda’u teulu neu ddod o hyd i leoliad maethu/preswyl lleol mwy hirdymor.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr am y prif ystyriaethau yngl?n â’r ffrydiau gwaith uchod o fewn y Prosiect Gweddnewid Plant. Wrth gyfeirio at yr ail ffrwd waith, eglurodd yn ystod y pandemig, fod tîm Therapi Aml Systematig wedi ei benodi, hyfforddi a’i lansio. Roedd y Tîm yn cynnig cefnogaeth uniongyrchol er mwyn meithrin gwydnwch teuluoedd rhwng 3 a 5 mis. Roedd y ffocws ar atal methiant y teulu a lleihau’r galw i roi plant yn y system ofal heb bod angen. Cyflwynodd Donna Watts, Rheolwr y tîm Therapi Aml Systematig a gofynnodd iddi roi crynodeb o’r Gwasanaeth.    

 

Eglurodd Rheolwr y Therapi Aml Systematig fod y Tîm wedi bodloni’r meini prawf er mwyn gweithredu’r Therapi o dan ofynion trwyddedu llym gan gynnwys cymhwysedd i ymarfer drwy hyfforddiant dwys.   Roedd y Therapi Aml Strategol yn fodel clinigol oedd yn gweithio gyda phob system o amgylch y plentyn gan gynnwys addysg, dylanwadau cymunedol, ac unrhyw oedolion/bobl eraill o bwys yn y teulu. Roedd y gwasanaeth yn becyn penodol o ofal oedd yn cynnig triniaeth yn y cartref 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.  Yn ystod ei chyflwyniad rhoddodd y Rheolwr enghreifftiau o sut roedd y Therapi Aml Strategol wedi llwyddo i newid bywydau unigolion o ganlyniad i’r driniaeth a’r gefnogaeth a roddwyd.Yr Awdurdod oedd y cyntaf yng Nghymru i’w ddefnyddio.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd yngl?n â’r ffordd y gwneid atgyfeiriad at y Gwasanaeth Therapi Aml Strategol, eglurodd y Rheolwr fod pob atgyfeiriad yn gorfod dod drwy’r Gwasanaethau Plant, boed yn atgyfeiriad gan Gyngor Sir y Fflint neu gan Brifysgol Betsi Cadwaladr. Wrth i bobl ddod yn fwy ymwybodol o’r gwasanaeth, roedd mwy o atgyfeiriadau’n dod. Rhoddodd Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu, drosolwg byr o’r llwybr atgyfeirio a dywedodd fod pob atgyfeiriad a wneid i’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei archwilio gan banel i benderfynu ar y llwybr gorau ar gyfer pob achos er mwyn cael y budd mwyaf o’r gwasanaeth Therapi Aml Strategol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Dave Mackie i gefnogi’r gwasanaeth Therapi a llongyfarchodd Reolwr y Therapi a’r swyddogion  ...  view the full Cofnodion text for item 15