Mater - cyfarfodydd
Review of Member/Officer Protocol
Cyfarfod: 20/10/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 22)
22 Adolygu Protocol Aelodau / Swyddogion PDF 94 KB
Pwrpas: Mabwysiadu Protocol Aelodau / Swyddogion Diwygiedig.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Member/Officer Protocol (tracked changes), eitem 22 PDF 250 KB
- Enc. 2 - Member/Officer Protocol (clean copy), eitem 22 PDF 155 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adolygu Protocol Aelodau / Swyddogion
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) Protocol Aelod/Swyddog a ddiweddarwyd sydd yn nodi sut y dylai natur y berthynas rhwng aelodau etholedig a swyddogion cyflogedig weithio. Roedd y Protocol wedi cael ei ddiweddaru yn dilyn adolygiad gan y Pwyllgor Safonau ac roedd yn adlewyrchu canlyniadau gwaith ar ddelio ag achosion a Safon Sir y Fflint.Roedd y fersiwn ddiweddaraf o’r Protocol wedi cael ei ddosbarthu oedd yn cynnwys diwygiadau gan y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod diweddaraf.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Phillips a’i eilio gan y Cynghorydd Paul Johnson.
PENDERFYNWYD:
Bod y protocol diwygiedig yn cael ei gymeradwyo.