Mater - cyfarfodydd

Overview & Scrutiny Annual report 2019/20

Cyfarfod: 08/12/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 40)

40 Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2019/20 pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ac eglurodd fod Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu yn cael ei ddrafftio yn flynyddol gan dîm y swyddog, mewn ymgynghoriad gyda Chadeiryddion Pwyllgorau perthnasol.  Roedd y drafft wedyn yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Cyfansoddiad a’r Gwasanaethau Democrataidd er mwyn cael sylwadau Aelodau cyn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer cael ei gymeradwyo’n ffurfiol.

 

Mae’r Adroddiad Blynyddol yn rhoi sicrwydd i’r Cyngor fod y swyddogaeth Trosolwg a Chraffu yn cyflawni ei rôl gyfansoddiadol.

 

Yn dilyn argymhelliad ym Mhwyllgor y Cyfansoddiad a’r Gwasanaethau Democrataidd, cytunwyd y gellid tynnu’r geiriad diangen yn ymwneud â’r rhaglen gwaith i’r dyfodol. 

 

Roedd angen diwygio gan fod y Cynghorydd Paul Johnson wedi ei restru fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn hytrach na’r Cynghorydd Cunningham.  Hefyd roedd angen diwygiad pellach gan fod y Cynghorydd Dave Hughes wedi ei restru fel Aelod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a oedd yn anghywir.  Byddai’r diwygiadau’n cael eu gwneud cyn i fersiwn derfynol yr adroddiad gael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Phillips ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Michelle Perfect.

 

Diolchodd y Cynghorydd Phillips i’r Hwyluswyr Trosolwg a Chraffu am eu cefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.  Hefyd talodd deyrnged i’r Cynghorydd Mackie a oedd wedi cadeirio’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol a oedd bellach wedi ei ddiddymu a hynny am dair blynedd.   Cytunodd y Cynghorwyr Roberts a McGuill gyda sylwadau’r Cynghorydd Phillips.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2019/20 yn cael ei dderbyn.