Mater - cyfarfodydd
Overview & Scrutiny Annual report 2019/20
Cyfarfod: 08/12/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 40)
40 Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2019/20 PDF 76 KB
Pwrpas: Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2019/20.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Overview & Scrutiny Annual report 2019/20, eitem 40 PDF 2 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2019/20
Cofnodion:
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ac eglurodd fod Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu yn cael ei ddrafftio yn flynyddol gan dîm y swyddog, mewn ymgynghoriad gyda Chadeiryddion Pwyllgorau perthnasol. Roedd y drafft wedyn yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Cyfansoddiad a’r Gwasanaethau Democrataidd er mwyn cael sylwadau Aelodau cyn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer cael ei gymeradwyo’n ffurfiol.
Mae’r Adroddiad Blynyddol yn rhoi sicrwydd i’r Cyngor fod y swyddogaeth Trosolwg a Chraffu yn cyflawni ei rôl gyfansoddiadol.
Yn dilyn argymhelliad ym Mhwyllgor y Cyfansoddiad a’r Gwasanaethau Democrataidd, cytunwyd y gellid tynnu’r geiriad diangen yn ymwneud â’r rhaglen gwaith i’r dyfodol.
Roedd angen diwygio gan fod y Cynghorydd Paul Johnson wedi ei restru fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn hytrach na’r Cynghorydd Cunningham. Hefyd roedd angen diwygiad pellach gan fod y Cynghorydd Dave Hughes wedi ei restru fel Aelod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a oedd yn anghywir. Byddai’r diwygiadau’n cael eu gwneud cyn i fersiwn derfynol yr adroddiad gael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.
Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Phillips ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Michelle Perfect.
Diolchodd y Cynghorydd Phillips i’r Hwyluswyr Trosolwg a Chraffu am eu cefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf. Hefyd talodd deyrnged i’r Cynghorydd Mackie a oedd wedi cadeirio’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol a oedd bellach wedi ei ddiddymu a hynny am dair blynedd. Cytunodd y Cynghorwyr Roberts a McGuill gyda sylwadau’r Cynghorydd Phillips.
PENDERFYNWYD:
Fod Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2019/20 yn cael ei dderbyn.