Mater - cyfarfodydd
Medium Term Financial Strategy and Council Fund Revenue Budget 2021/22
Cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet (eitem 24)
24 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2021/22 PDF 138 KB
Pwrpas: I roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2021/22.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Medium Term Financial Strategy and Council Fund Revenue Budget 2021/22, eitem 24 PDF 100 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2021/22
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhagolwg ariannol ar gyfer 2021/22 a’r ddwy flynedd ariannol ganlynol.
Roedd adolygiad llawn o’r rhagolwg wedi cael ei gyflawni i adeiladu gwaelodlin cywir a chadarn o bwysau ariannol a fydd angen ei gyllido. Roedd yr adolygiad wedi ystyried effeithiau parhaus y sefyllfa o argyfwng gan gynnwys cyflymder y broses adfer ar gyfer targedau incwm allweddol.
Prif bwrpas yr adroddiad oedd nodi yn fanwl y rhagolwg o ran costau ar gyfer 2021/22 cyn ei gyfeirio at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i’w adolygu a’i herio. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi datrysiadau oedd ar gael i ariannu’r costau hynny. Roedd y strategaeth gyllido yn dibynnu’n fawr ar gyllid cenedlaethol digonol ar gyfer llywodraeth leol ac nid oedd newidiadau ers gosod y gyllideb ar gyfer 2020/21.
Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad PowerPoint a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol:
· Rhagolygon Ariannol 2021/22;
· Y Dyfodol – Yr hyn a hysbyswyd ym mis Chwefror;
· Pwysau Costau 2021/22;
· Crynodeb o Gyfanswm y Pwysau Costau
· Datrysiadau Strategol;
· Datrysiadau Pedair Rhan;
· Cenedlaethol a Chyllid;
· Senarios Ariannu Posib’;
· Amserlen y Gyllideb; a’r
· Camau Nesaf.
Croesawodd y Cynghorydd Banks y berthynas weithio rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru a chefnogodd y wybodaeth a gyflwynwyd i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ym mis Tachwedd.
Gofynnodd y Cynghorydd Thomas os oedd disgwyliad i’r Cydbwyllgorau Corfforaethol gael eu hariannu gan gyllidebau cyfredol y Cyngor. Dywedodd y byddai cludiant strategol yn ffurfio rhan o hynny a gwnaeth sylw ar y nifer o gynlluniau cludiant a ddarparwyd gan y Cyngor. Dywedodd y Prif Weithredwr y gallai llawer o’r gwaith gofynnol gael ei gyflawni gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac mewn gweithdai. O ran cludiant, bwriad y Cyngor oedd cadw capasiti i ddarparu gwasanaethau cludiant lleol. Bydd angen cynnal trafodaethau gyda Trafnidiaeth Cymru ar eu bwriadau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod Treth y Cyngor yn ariannu rhwng 27 a 29% o’r gwasanaethau. Eglurodd y Prif Weithredwr y gallai hyn gael ei ddangos fel graddfa symudol yn erbyn y Grant Cynnal Refeniw.
Gofynnodd y Cynghorydd Bithell os cafwyd unrhyw ymateb gan LlC ar golli incwm meysydd parcio. Eglurodd y Prif Weithredwr yn dilyn cyflwyno llythyr i LlC, eu bod wedi cadarnhau eu safle fel yr adroddwyd yn flaenorol – na fyddai’r awdurdod yn gallu hawlio am golli incwm ac eithrio’r chwarter cyntaf. Fodd bynnag, pe byddai’r Cyngor yn gallu dangos bod defnydd o feysydd parcio yn is na chyn y pandemig, gellid hawlio elfennau o chwarter 2 a 3. Amcangyfrifwyd y gellid hawlio 75% ar gyfer chwarter 2 a 50% ar gyfer chwarter 3.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r rhagolygon cyffredinol ar gyfer y cyfnod 2021/22 – 2023/24, a chyfeirio’r rhestr o bwysau costau ar gyfer 2021/22 i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ym mis Tachwedd i’w hadolygu a’i herio; a
(b) Nodi’r datrysiadau sydd ar gael i gwrdd â’r pwysau costau ac ailosod y strategaeth gyllido ar gyfer 2021/22.