Mater - cyfarfodydd
Recovery Strategy Update (Streetscene and Transportation Portfolio)
Cyfarfod: 08/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 28)
28 Diweddariad Strategaeth Adferiad (Portffolio Stryd a Chludliant) PDF 87 KB
Pwrpas: Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Recovery Strategy Update (Streetscene and Transportation Portfolio), eitem 28 PDF 170 KB
- Appendix 2 - Recovery Strategy Update (Streetscene and Transportation Portfolio), eitem 28 PDF 133 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth) adroddiad yn rhoi trosolwg o’r gwaith cynllunio adferiad ar gyfer maes portffolio’r Pwyllgor. Cyflwynodd wybodaeth gefndir ac esboniodd fod y fersiwn ddiweddaraf o’r gofrestr risg a set o gamau i liniaru risg ar gyfer y portffolio Strydlun a Thrafnidiaeth ynghlwm â’r adroddiad.
Hefyd, dywedodd y Prif Swyddog fod diweddariad yn yr adroddiad ar gyfer pob un o 9 amcan adferiad y portffolio. Cyfeiriodd at gynnydd ym mherfformiad ailgylchu, datblygu seilwaith gwastraff i gefnogi’r potensial i gynyddu ailgylchu, a chynnal y rhwydwaith priffyrdd dros y gaeaf.
Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad ar y newidiadau yn y gofrestr risg ddiweddaraf a fyddai’n cael ei chylchredeg i aelodau’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod, a chyfeiriodd at arian gan Lywodraeth Cymru am golli incwm o feysydd parcio oherwydd cyfyngiadau Covid-19; lles gweithwyr cyflogedig, materion yn ymwneud â chydymffurfiaeth wrth ailgylchu defnyddiau gwastraff, a pharatoadau i ymateb i sefyllfaoedd brys.
Diolchodd y Cynghorydd Carolyn Thomas i’r holl staff yn yr adran Strydlun a Thrafnidiaeth am eu gwaith caled yn ystod y pandemig. Roedd y Cadeirydd hefyd yn dymuno diolch i’r Prif Swyddog a’i staff am eu gwaith o dan amodau anodd iawn.
Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson am ddiweddariad ar yr Orsaf Trosglwyddo Gwastraff Safonol, a dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r tir yn wag cyn y Nadolig gyda’r gobaith o gael adeilad newydd erbyn mis Mehefin/Gorffennaf a fyddai’n weithredol cyn diwedd yr haf 2021. Byddai’r cyfleuster newydd yn cynnwys canolfan addysg a byddai Aelodau’r Pwyllgor yn cael eu gwahodd i ymweld â’r ganolfan ar ôl iddi gael ei chwblhau.
Mewn ymateb i bryderon pellach a godwyd gan y Cynghorydd Hutchinson yngl?n â marciau ffordd, esboniodd y Prif Swyddog y byddai unrhyw ddiffygion yn cael eu nodi gan gydlynwyr stryd lleol yn ystod archwiliadau o’r priffyrdd ac y byddai contractwr arbenigol yn dod i mewn i gyflawni rhaglen waith. Awgrymodd y dylai’r Cynghorydd Hutchinson godi’r diffygion penodol roedd yn gwybod amdanynt gyda’i gydlynydd Strydlun lleol er mwyn gweithredu arnynt.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd George Hardcastle, rhoddodd y Prif Swyddog ddiweddariad ar drefniadau cynnal y gaeaf, a chadarnhaodd fod stoc o halen carreg yn weddill ar gyfer cyfnod y gaeaf. Diolchodd y Cynghorydd Hardcastle i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith caled yn ystod misoedd y gaeaf.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Christopher Dolphin ac eiliwyd gan y Cynghorydd Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed i gefnogi Strategaeth Adferiad y portffolio Strydlun a Thrafnidiaeth.