Mater - cyfarfodydd

Recovery Strategy Update

Cyfarfod: 03/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 16)

16 Diweddariad Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 104 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) grynodeb byr o’r Strategaeth Adfer a nododd fod mwyafrif helaeth y gwasanaethau wedi parhau ar lefel uchel drwy gydol y cyfnod argyfwng, gan gynnig cymaint o gefnogaeth â phosibl i bobl ddiamddiffyn. Gwelodd rhai gwasanaethau newid yn y galw tra bod eraill wedi aros yr un fath. Esboniodd fod rhai gwasanaethau wedi cael eu haddasu, lle bo’r angen, er mwyn defnyddio dulliau cymysg, gyda rhai pobl yn y swyddfa fel bo’r angen.  Gwelwyd hefyd bwysau sylweddol yn ddiweddar o ran argaeledd Cartrefi Gofal a Gofal yn y Cartref ond roedd pethau’n fwy sefydlog erbyn hyn ac roedd yn gobeithio y byddai hyn yn parhau cyn i’r drefn frechu gael ei rhoi ar waith. Roedd ef a’r Aelod Cabinet wedi bod yn cwrdd â’r holl dimau gweithredol er mwyn dangos gwerthfawrogiad o’u hymroddiad.

 

Gofynnodd y Cadeirydd beth oedd heb ddychwelyd i’r drefn arferol ac esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) nad oedd wedi bod yn bosibl cynnal rhai gwasanaethau seibiant ar gyfer pobl h?n, nid oedd rhai gwasanaethau dydd wedi agor yn llawn, nid oedd gwasanaethau seibiant i Blant – Arosfa a chyrsiau hyfforddi wyneb yn wyneb wedi bod yn digwydd ond roedden nhw wedi cael eu cynnal yn rhithiol. Roedd rhai bellach yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb. Ychwanegodd y byddai rhai newidiadau’n cael eu hadolygu ac, o bosib, yn cael eu cadw.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey a oedd digon o staff ar gael i fonitro sefyllfa’r plant a oedd ddim yn mynychu’r ysgol ac yn cael eu haddysg gartref ac ychwanegodd y byddai’n codi hyn gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid.   Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) mai Gweithwyr Cymdeithasol ym maes Addysg oedd y gwasanaethau rheng flaen pan na fyddai plant yn mynychu’r ysgol ac o safbwynt Gwasanaethau Cymdeithasol nid oedden nhw wedi dod ar draws unrhyw broblemau. Pwysleisiodd ei bod yn bwysig cydweithio â nhw i gefnogi pobl a theuluoedd y plant hynny a oedd methu mynychu’r ysgol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi holi a oeddem yn monitro Plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ac rydym yn gwneud hynny’n rhagweithiol.

 

Dymunai’r Cadeirydd wybod beth sydd wedi ei golli o safbwynt diogelu drwy beidio â bod yn y swyddfa. Ni chredai’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) eu bod wedi colli rhyw lawer, a bod angen dysgu o hyn ar gyfer y dyfodol, a’u bod wedi addasu’n wych gan fod pobl ifanc yn llawer mwy cyfforddus gyda thechnoleg a dulliau digidol. O safbwynt iechyd a lles, roedd caniatáu i grwpiau bychain o staff fynd i’r swyddfa i greu ‘pod’ yn gam rhagweithiol iawn gan fod y staff yn hiraethu am y cyswllt roedden nhw’n ei gael yn y swyddfa wrth drafod achosion.

 

Wrth ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Ellis ynghylch y cyfeiriadau at y gofrestr risg a chleifion yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ei fod yn pryderu am y pwysau ond eu bod wedi gwneud popeth o fewn eu gallu  ...  view the full Cofnodion text for item 16