Mater - cyfarfodydd
Recovery Strategy Update
Cyfarfod: 12/11/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 28)
28 Diweddariad Strategaeth Adferiad PDF 101 KB
Pwrpas: Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Risk Register, eitem 28 PDF 140 KB
- Enc. 2 - Risk Mitigation table, eitem 28 PDF 600 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Diweddariad Strategaeth Adferiad
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor ar gofrestr risg portffolios corfforaethol a dulliau lliniaru fel rhan o’r broses cynllunio adferiad.
Ni fu unrhyw newidiadau sylweddol ers y mis diwethaf gan fod nifer o’r risgiau yn rai hir dymor. Fel yr awgrymodd y Cynghorydd Richard Jones yn y cyfarfod blaenorol, roedd y dull o gyflwyno patrymau risg wedi ei newid er eglurder.
O safbwynt yr amcanion adfer lefel uchel, canmolodd y Cynghorydd Banks y gweithlu am waith a wnaed yn ystod cyfnod yr argyfwng.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Dunbobbin a Rush.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cofrestr risg a ddiweddarwyd a'r camau lliniaru risgiau o fewn y portffolios corfforaethol.