Mater - cyfarfodydd
Recovery Strategy (Planning, Environment & Economy Portfolio)
Cyfarfod: 10/11/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 24)
24 Diweddariad Strategaeth Adferiad (Portffolio Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) PDF 92 KB
Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Updated Recovery Risk Register, eitem 24 PDF 119 KB
- Appendix 2 - Updated Risk Mitigation Actions, eitem 24 PDF 129 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad yn rhoi trosolwg o’r cynlluniau adfer ar gyfer meysydd portffolio perthnasol y Pwyllgor. Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir gan ddweud fod y fersiwn ddiweddaraf o'r gofrestr risg a'r gyfres o weithredoedd lliniaru risg ar gyfer y portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi wedi'u hatodi i'r adroddiad. Yn ychwanegol rhoddwyd diweddariad yn yr adroddiad ar gynnydd yn erbyn pob un o 14 amcan adfer y portffolio.
Wrth gyflwyno’r adroddiad tynnodd y Prif Swyddog sylw at y cynnydd a wnaed ar yr amcanion adfer o safbwynt ailagor cyrchfannau - Parc Gwepra, Dyffryn Maes Glas, Waun y Llyn; cydymffurfiad ag amserlen y Cynllun Datblygu Lleol Newydd; cefnogaeth ar gyfer marchnadoedd lleol a chanolfannau trefi; ymgymryd ag arolygon clefyd coed ynn ac adfer y swyddogaeth Rheoli Datblygu. Adroddodd y Prif Swyddog ar y gofrestr risg (f7) a oedd wedi’i hatodi i’r adroddiad.
Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau'r Cynghorydd Patrick Heesom yngl?n â'r amcanion adfer, dywedodd y Prif Weithredwr fod parhad gwasanaethau a pherfformiad wedi bod yn uchel o gymharu ag awdurdodau eraill yn ystod yr argyfwng COVID-19.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Cindy Hinds ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd gan y Cynghorydd Owen Thomas.
Ymataliodd y Cynghorydd Patrick Heesom rhag pleidleisio ar yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd a wnaed ar gynllunio adfer y portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi; a
(b) Nodi cynnwys cofrestr risg ddiweddaredig y portffolio a chamau lliniaru.