Mater - cyfarfodydd
Recovery Strategy Update (Streetscene and Transportation Portfolio)
Cyfarfod: 10/11/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 25)
25 Diweddariad Strategaeth Adferiad (Portffolio Stryd a Chludliant) PDF 87 KB
Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - The latest version of the risk register, eitem 25 PDF 170 KB
- Appendix 2 - Risk mitigation actions, eitem 25 PDF 133 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad yn rhoi trosolwg o’r cynlluniau adfer ar gyfer meysydd portffolio perthnasol y Pwyllgor. Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir gan ddweud fod y fersiwn ddiweddaraf o'r gofrestr risg a'r gyfres o weithredoedd lliniaru risg ar gyfer y portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant wedi'u hatodi i'r adroddiad. Yn ychwanegol rhoddwyd diweddariad yn yr adroddiad ar gynnydd yn erbyn pob un o 9 amcan adfer y portffolio.
Adroddodd y Prif Swyddog ar y 6 risg coch yn ymwneud â Covid, fel yr eglurwyd yn yr atodiad i’r adroddiad. Adroddodd hefyd ar y cynnydd a wnaed ar y 9 amcan adfer yn yr adroddiad a thynnodd sylw at yr amcanion i gyfnerthu safonau gwaith Gwasanaethau Stryd ar lefelau cyn COVID; dychwelyd y gweithlu rheng flaen i oriau gwaith safonol er mwyn sicrhau defnydd effeithiol o'r adnoddau sydd ar gael; cynnydd ar ddatblygiad seilwaith gwastraff i gefnogi mwy o botensial i ailgylchu a chynnal y rhwydwaith priffyrdd dros gyfnod y gaeaf.
Ymatebodd y Prif Swyddog i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd George Hardcastle yngl?n â'r tâl am y gwasanaeth gwastraff 'bin brown' yng ngoleuni ataliad dros dro diweddar y casgliadau. Gofynnodd y Cynghorydd Hardcastle hefyd pa gamau sy’n cael eu cymryd i rwysto'r broblem o ddraeniau wedi'u blocio ar strydoedd a phriffyrdd o ganlyniad i ddail wedi disgyn. Eglurodd y Prif Swyddog y byddai preswylwyr sydd wedi talu'r ffi lawn am y gwasanaeth 'bin brown' yn cael cynnig gostyngiad y tro nesaf fel iawndal am golled dros dro y gwasanaeth yn ystod yr argyfwng Covid-19. Mewn ymateb i’r pryderon am ddraeniau wedi’u blocio dywedodd y Prif Swyddog fod pedwar cerbyd yn gweithio 6 diwrnod o'r wythnos i fynd i'r afael â'r broblem a bod cydlynwyr Gwasanaethau Stryd yn monitro'r sefyllfa ac yn adnabod mannau problemus.
Llongyfarchodd y Cynghorydd Patrick Heesom y Prif Swyddog a’i dîm am eu cynnydd a'r gwelliannau a wnaed drwy'r rhaglen o drwsio tyllau yn y ffyrdd.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Kevin Hughes a'i eilio gan y Cynghorydd Patrick Heesom.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed i gefnogi strategaeth adfer
y portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant.