Mater - cyfarfodydd

Recovery Strategy Update

Cyfarfod: 05/11/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 15)

15 Diweddariad Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 115 KB

Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y wybodaeth ddiweddaraf am y gofrestr risg a chamau lliniaru risg, fel y dangosir yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad.

 

            Darparodd y Prif Swyddog y wybodaeth ddiweddaraf am yr amcanion adfer i’r portffolio gwasanaeth, fel y manylion yn yr adroddiad, a thynnodd sylw’r Pwyllgor at risg EY33 – Methiant ysgolion i weithredu'n ddiogel a darparu addysg statudol oherwydd gostyngiad mewn lefelau staffio, a oedd yn risg newydd a ychwanegwyd ers y cyfarfod diwethaf. Ers canol mis Medi roedd cynnydd sylweddol wedi bod mewn lefelau absenoldeb oherwydd Covid ymysg gweithluoedd ysgolion ac er bod hynny’n bryder, nid oedd unrhyw ysgol wedi gorfod cau yn gyfan gwbl oherwydd pwysau staffio.  Er mwyn cefnogi ysgolion i barhau i weithredu’n ddiogel, roedd proses gefnogi gadarn mewn lle rhwng y Rhaglen Profi Olrhain a Diogelu ac Iechyd Yr Amgylchedd i gymryd camau cyflym pan fyddai achosion positif yn cael eu canfod mewn ysgolion.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg, ei fod wedi mynychu cyfarfod gyda’r Gweinidog Addysg yn gynharach yn y dydd a’i bod wedi amlygu ei phryder yngl?n ag absenoldeb yn troi’n broblem genedlaethol.    

 

            Holodd y Cynghorydd Dave Mackie a ddylid cau risg EY23 – canlyniad gwael yn Archwiliaid Y Weinyddiaeth Gyfiawnder am beidio â chydymffurfio â Safonau Cyfiawnder Ieuenctid Cenedlaethol a llywodraethu aneffeithiol gan Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid.  Esboniodd y Prif Swyddog ar Uwch-Reolwr – Darpariaeth Ieuenctid Integredig yr angen i gadw’r risg ar agor ar hyn o bryd a bod disgwyl i archwiliad gael ei gynnal ar ddechrau 2021.

 

            Holodd y Cadeirydd a ddylid ychwanegu dau risg at y gofrestr risgiau yn ymwneud â dysgu cyfunol a bwlio ar-lein. Teimlai y byddai’n ddefnyddiol i’r Pwyllgor ddeall yr effaith y mae dysgu cyfunol yn ei gael ar ddisgyblion a pha llwyddiannus y bu a’r risg bosibl i fyfyrwyr sy’n dewis peidio ag ymgysylltu â’r trefniadau newydd.  Soniodd hefyd am ymrwymiad y Pwyllgor a’r holl Aelodau i sefyll yn erbyn bwlio ar-lein a gofynnodd a oedd y trefniadau gweithio newydd yn darparu mwy o gyfleoedd i fwlio ar-lein.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog mai risgiau i ysgolion oedd y rhain ac nid risgiau i bortffolios craidd a dywedodd bod adroddiad am ddysgu cyfunol wedi'i gynnwys yn rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor  ac y byddai adroddiad manwl yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf a oedd wedi’i drefnu ym mis Rhagfyr. Sicrhaodd yr Uwch-Reolwr - Newid a Chymorth Busnes, er bod dysgu cyfunol wedi bod yn heriol, roedd athrawon a disgyblion wedi ymateb yn bositif i’r heriau hynny. Roedd dysgu cyfunol wedi darparu cyfleoedd i weithio mewn ffyrdd newydd a fyddai’n ychwanegu at brofiad y dysgwyr wrth symud ymlaen i gyflwyno’r cwricwlwm newydd.

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog hefyd at yr adroddiad blynyddol ar gyfryngau cymdeithasol a defnyddio’r rhyngrwyd a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor y flwyddyn nesaf. Roedd yn cydnabod y pryder a dywedodd y byddai rheoli bwlio ar-lein yn her fawr i ysgolion ac awgrymodd y dylid  ...  view the full Cofnodion text for item 15