Mater - cyfarfodydd
Recovery Strategy Update
Cyfarfod: 16/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 26)
26 Diweddariad Strategaeth Adferiad PDF 101 KB
Pwrpas: Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Updated Recovery Risk Register, eitem 26 PDF 140 KB
- Appendix 2 – Updated Risk Mitigation Actions, eitem 26 PDF 160 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Diweddariad Strategaeth Adferiad
Cofnodion:
Cyflwynodd Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Adfer a chyfeiriodd at y risgiau a oedd wedi’u haddasu ers y cyfarfod diwethaf. Roedd y tueddiad risg mewn perthynas â Digartrefedd a’i effaith ar allu gweithlu wedi cynyddu oherwydd y cynnydd yn nifer y bobl sy’n cyflwyno eu hunain fel bod yn ddigartref.O ran yr ôl-groniad o unedau gwag yn effeithio’n negyddol ar y Cynllun Busnes NEW Homes, cynyddwyd y risg hwn hefyd oherwydd ei bod yn cymryd mwy o amser i osod eiddo oherwydd nifer yr apwyntiadau sydd ar gael i’w gweld ac oedi o ran atgyweirio unedau gwag.
Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Mared Eastwood a’i eilio gan y Cynghorydd Geoff Collett.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r Gofrestr Risg wedi’i diweddaru a’r Camau Lliniaru Risg, fel yr oeddent yn yr adroddiad.