Mater - cyfarfodydd
Recovery Strategy Update
Cyfarfod: 15/10/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 13)
13 Diweddariad Strategaeth Adferiad PDF 101 KB
Pwrpas: Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Updated Corporate Recovery Risk Register, eitem 13 PDF 133 KB
- Appendix 2 – Updated Corporate Risk Mitigation Actions, eitem 13 PDF 172 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Diweddariad Strategaeth Adferiad
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i roi’r newyddion diweddaraf i’r Pwyllgor am Gofrestr Risg y Portffolio Corfforaethol a mesurau lliniaru yn rhan o gynllunio adferiad, yn dilyn yr eitem yn y cyfarfod blaenorol.
Rhoddodd y Prif Swyddog, Rheolwr Cyllid Corfforaethol ac Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol gyflwyniad ar y cyd am y prif newidiadau a’r materion presennol am risg ac adferiad o fewn eu portffolios fel a ganlyn:
· Tueddiad risg gyfredol ac wedi dod i ben
· Dadansoddiad o’r statws risg gyfredol
· Dadansoddiad o statws tueddiad risg
· Cyllid
· Gweithlu
· Llywodraethu
Cyllid
Er mwyn osgoi unrhyw ddryswch, dywedodd y Cynghorydd Richard Jones y dylai’r data wahaniaethu rhwng gwella tueddiadau risg a thueddiadau sefydlog, felly dylai tueddiadau risg oedd yn sefydlog gael eu hanodi gyda’r saeth briodol, ond gallai aros yn goch, oren neu wyrdd yn y cyflwr sefydlog hwnnw. Dywedodd y Prif Swyddog bod y data’n cael ei gyflwyno i ddarparu cyd-destun ar y statws presennol ochr yn ochr â’r duedd, ond fe allai gael ei adolygu os oedd Aelodau eraill yn rhannu’r un pryder. Cynigiodd y Cynghorydd Jones ei awgrym fel argymhelliad, ac roedd yn cwestiynu teitl y Strategaeth Adfer am ei fod yn teimlo nad oedd hyn yn adlewyrchu cam presennol y pandemig. Dywedodd y Prif Swyddog bod y tri cham yn dilyn y terminoleg genedlaethol a bod y cam Adfer yn edrych ar gynllunio at y dyfodol. Yn anochel, fe allai pob cam newid ar unrhyw adeg.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at y newid yng ngraddfa risg ar gyllid cenedlaethol er mwyn disodli incwm sy’n cael ei golli (CF01), dywedodd y byddai’n cael ei anodi er mwyn adlewyrchu’r diweddariad yn y mis hwnnw. Gan ymateb i gwestiynau, siaradodd y Prif Swyddog am yr agwedd ragweithiol y mae’r tîm Refeniw wedi’i gymryd i ymgysylltu â chwmnïau preifat i gael gafael ar gyllid grant Llywodraeth Cymru (LlC) a darparu cefnogaeth trwy gytundebau ad-dalu lle y bo’n bosibl. O ran cadw Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy fel ysbyty brys, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y trafodaethau yn mynd rhagddynt o ran cefnogaeth ariannol ar gyfer cwmnïau preifat sy’n gweithredu yn yr adeilad.
O ran risgiau ariannol, gofynnodd y Cynghorydd Johnson am yr effaith posibl ar osod Treth y Cyngor. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod yr adroddiad cyllideb ar gyfer cyfarfod y Cabinet a fyddai’n cael ei gynnal yn fuan yn sôn am ystod o bwysau costau oedd yn hysbys a’r datrysiadau cyfyngedig oedd ar gael i’r Cyngor i’w bodloni. Byddai dechrau’r broses o ymgynghori ar y gyllideb ym mis Tachwedd yn rhoi cyfle i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu adolygu a herio’r pwysau costau hynny ochr yn ochr â’r dull ehangach er mwyn adnabod arbedion effeithlonrwydd. Yn ychwanegol, roedd Cynghorau yng Nghymru yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar effaith ariannol y sefyllfa argyfyngus.
Gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dunbobbin, cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i drafod gyda’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) i ddarparu rhagor o wybodaeth am werth a rhesymau am y cynnydd mewn ... view the full Cofnodion text for item 13