Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking
Cyfarfod: 16/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 21)
21 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB
Pwrpas: I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Draft Forward Work Programme, eitem 21 PDF 71 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Community Housing & Assets OSC, eitem 21 PDF 54 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ddiweddaraf a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu.
Dywedodd yr Hwylusydd wrth y Pwyllgor na fyddai’r diweddariadau rheolaidd ar y Sefyllfa Argyfwng yn cael eu cynnwys ar Raglenni yn y dyfodol gan y byddai Aelodau yn parhau i gael diweddariadau wythnosol gan y Prif Weithredwr. Dywedodd hefyd bod y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Adfer, a oedd wedi bod yn eitem sefydlog ar y Rhaglen, dan adolygiad ar hyn o bryd ac y byddai’r wybodaeth nawr yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor bob chwarter.
Roedd dau gyfarfod ychwanegol wedi cael eu hychwanegu at yr amserlen o gyfarfodydd yn y rhaglen gwaith i'r dyfodol a byddai’r Hwylusydd yn cysylltu gyda’r Cadeirydd a swyddogion yn dilyn y cyfarfod i nodi adroddiadau ar gyfer y cyfarfodydd ym mis Chwefror a Mai 2021.
Dywedodd yr Hwylusydd hefyd bod yr holl gamau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol wedi cael eu cwblhau fel oedd i’w weld yn Atodiad 2 i’r adroddiad.
Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Kevin Rush a’u heilio gan y Cynghorydd Geoff Collett.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen;
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.