Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 10/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 38)

38 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataiddefallai y byddai’n rhaid symud Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i gyfarfod mis Chwefror ac y gallai gael ei ddisodli gan Adroddiad Blynyddol y Gronfa Waddol Gymunedol. Eglurodd y byddai sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw (mis 8) yn cael ei thrafod yn ystod y cyfarfod nesaf ac y byddai’r Briffiadau ynghylch yr Argyfwng yn cael eu disodli gan e-byst briffio wythnosol i Aelodau o fis Ionawr ymlaen. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones fe ddylai fod yna fwy o ffocws ar aliniad Cynllun y Cyngor gyda’r portffolios.  Dywedodd hefyd y dylid rhoi mwy o ffocws ar faterion eraill o werth ariannol mawr o fewn y gyllideb. Dywedwyd wrtho y byddai’r ymgynghoriad ar gynnwys a fformat Cynllun y Cyngor yn dechrau’n fuan yn y Flwyddyn Newydd.

 

Mewn ymateb i bryderon y Cynghorydd Jones yngl?n â’r angen i ystyried strategaethau ariannol yn gynnar a chanolbwyntio ar faterion lle’r oedd gan y Cyngor reolaeth, dywedodd y Prif Weithredwr bod adroddiad y Cabinet ar strategaeth gloi’r gyllideb wedi cael ei rannu ac y byddai’r sesiwn friffio i’r Aelodau ar y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro ar 23 Rhagfyr yn rhoi cyfle i adolygu’r sefyllfa a rheoli risg ariannol yn y dyfodol.

 

Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

 (b)      Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.