Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking (Env)
Cyfarfod: 10/11/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 21)
21 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB
I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Draft Forward Work Programme, eitem 21 PDF 72 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Environment & Economy OSC, eitem 21 PDF 61 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol. Cyfeiriodd at yr eitemau oedd wedi'u rhestru ar gyfer eu hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a oedd i'w gynnal ar 8 Rhagfyr 2020 a dywedodd y byddai eitem ychwanegol yn cael ei chynnwys ar ddogfen ymgynghori ar y Gymraeg y Cyd-bwyllgor Corfforaethol a oedd yn gofyn am ymatebion erbyn 4 Ionawr 2021.
Dywedodd yr Hwylusydd bod gweithdy ar Gynnal Ffosydd a Chyrsiau D?r wedi’i gynllunio ar gyfer mis Rhagfyr a hefyd bod y Bwrdd Uchelgais Economaidd yn cynllunio gweithdy ar y Strategaeth Ddigidol. Byddai cyfarfod rhithiol ar Parc Adfer yn cael ei gynnal yn y Flwyddyn Newydd. Byddai’r aelodau’n cael gwybod ar ba ddyddiadau fyddai’r digwyddiadau’n cael eu cynnal ar ôl iddynt gael eu cadarnhau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Patrick Heesom cadarnhaodd yr Hwylusydd fod eitemau ar y Cynllun Cludiant Integredig a Newid Hinsawdd wedi’u cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol er ystyriaeth y Pwyllgor yn y dyfodol.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorwyr Owen Thomas a George Hardcastle, eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) y byddai diweddariad ar lwybrau seiclo sydd i’w roi gerbron y cyfarfod ar 8 Rhagfyr yn cynnwys yr holl gynigion am lwybrau beicio ar draws y sir ac y byddai ymgynghoriad llawn yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd. Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas a’r Cynghorydd Chris Bithell y byddent yn rhoi diweddariad i'r Cynghorydd Thomas ar y llwybr beicio o'r Wyddgrug i Rydymwyn ar ôl y cyfarfod.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at waith yn ymwneud â chlefyd Coed Ynn a gofynnod bod cofnod yn cael ei gadw o berchnogion tir er mwyn sicrhau y gellir cysylltu â hwy yn y dyfodol er mwyn sicrhau fod gwaith cynnal a chadw'n cael ei wneud i atal tarfu ar lwybrau cyhoeddus a phriffyrdd. Cydnabu’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y sylwadau a dywedodd y byddai diweddariad ar waith yn ymwneud â chlefyd coed ynn yn cael ei ddarparu mewn cyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Patrick Heesom ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd George Hardcastle.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; ac
(b) Awdurdodi’r Hwylusydd, ar ôl ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen;a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cwblhau’r camau gweithredu sydd heb eu cau.