Mater - cyfarfodydd

Regeneration overview (verbal)

Cyfarfod: 13/10/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 13)

Trosolwg Adfywio

Pwrpas:        Ymgyfarwyddo Aelodau'r Pwyllgor â'r ychwanegiadau newydd i'r Cylch Gorchwyl i gynnwys Cymunedau yn Gyntaf, Datblygu Economaidd a Menter Twristiaeth, Partneriaethau Adfywio, Cynllun Datblygu Gwledig a Croeso Cymru (fel y cytunwyd yn y Pwyllgor ar 21 Medi).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y Pwyllgor eu bod wedi trafod y newid i’r Cylch Gorchwyl yn y cyfarfod diwethaf, drwy ddod â Menter ac Adfywio i mewn, a oedd yn adrodd gerbron Cymuned a Menter yn flaenorol.

                     

Rhoddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio drosolwg o’r Gwasanaeth Menter ac Adfywio i ymgyfarwyddo’r Pwyllgor â’i agweddau gwaith ef:-   

 

Swyddogaethau Gwasanaeth

·         Datblygu Busnes

·         Adfywio Tai

·         Rhaglenni Cyflogadwyedd

·         Gwerth Cymdeithasol

·         Cysylltedd Digidol

·         Adfywio

·         Llywodraethu Economaidd

 

            Holodd y Cynghorydd Heesom faint o Aelodau a allai oruchwylio a chyfranogi yn y broses adferiad economaidd. Rhoddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybod fod craffu ar y broses adferiad economaidd yn swyddogaeth bwysig o’r Pwyllgor hwn. Dywedodd ei fod yn agored i awgrymiadau gan Aelodau ynghylch sut y gellid gwella cyfathrebu.  

 

Rhoddodd y Cynghorydd Shotton sylw ar faint o bwysau sy’n gorfod bod ar y Tîm Gwaith Cymunedol, a holodd a oedd Llywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth gan y byddai sawl swydd dan fygythiad.  Ychwanegodd mai ailhyfforddi oedd yr allwedd i ennill cyflogaeth a gofynnodd a oedd gwaith yn dal yn mynd rhagddo, gan roi esiampl o faint oedd wedi’i wneud gyda’r Sector Gofal.  Cytunodd Menter ac Adfywio ei fod yn amser anodd ar y funud, ond nid oedd hyn yn disgyn ar y Tîm Pwyllgorau dros Waith yn unig, roedd yn ymdrech a rennir, ac ni ellid rhagweld niferoedd, ond roedd sgwrs yn parhau i fod, i ddeall y pwysau cyfredol, ac fe roddwyd hyn yn adborth i Lywodraeth Cymru. Roedd rhai rhaglenni dal yn digwydd drwy ddysgu rhithwir, ond nid oedd modd anfon pobl i weithleoedd am brofiad gwaith.  

 

            Rhoddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybod fod pwynt y Cynghorydd Shotton am Gysylltedd Digidol yn gywir, yn y modd bod rhai darparwyr yn buddsoddi, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf poblog, ond ar draws Gogledd Cymru, nid oedd yn digwydd yn aml, gan nad oedd yn ardal ddeniadol i fuddsoddi ynddi’n  naturiol. Pwysleisiodd y pwysigrwydd o raglen cynnig Twf i gysylltedd digidol.

 

            Rhoddodd y Cynghorydd Hutchinson wybod fod yr hen Factory Shop ym Mwcle, a oedd yn eiddo i’w osod yn flaenorol, bellach ar werth, a chwestiynodd beth y gellid ei wneud i’r siop i ddenu cwmnïau, gan ei fod yn troi’n ddolur llygad.  Rhoddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybod ei fod yn ymwybodol ei fod ar werth ac y gallai’r pris gwerthu ddenu diddordeb, gan nad oedd y pris gosod wedi llwyddo i wneud hynny.  Rhoddodd wybod eu bod mewn cysylltiad â’r perchennog i roi cefnogaeth a deall eu hamcanion tymor hwy ar gyfer yr uned.

 

            Cododd y Cynghorydd Hardcastle bryder am y diffyg ymgynghori am leoliadau’r polion gan BT Openreach. Ymatebodd y Rheolwr Menter ac Adfywio drwy ddweud bod gan y Cwmni Cyfleustodau rymoedd a hawliau sylweddol, o ran gosod eu hisadeiledd. Rhoddodd wybod eu bod yn siarad â’r Cyngor, ond bod gan y Cyngor reolaeth gyfyngedig dros beth maent yn ei wneud ac ni allant fynnu eu bod yn ymgynghori. Rhoddodd wybod y bydd adborth yn cael  ...  view the full Cofnodion text for item 13