Mater - cyfarfodydd
Regeneration overview (verbal)
Cyfarfod: 13/10/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 13)
Trosolwg Adfywio
Pwrpas: Ymgyfarwyddo Aelodau'r Pwyllgor â'r ychwanegiadau newydd i'r Cylch Gorchwyl i gynnwys Cymunedau yn Gyntaf, Datblygu Economaidd a Menter Twristiaeth, Partneriaethau Adfywio, Cynllun Datblygu Gwledig a Croeso Cymru (fel y cytunwyd yn y Pwyllgor ar 21 Medi).
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Atgoffodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y Pwyllgor eu bod wedi trafod y newid i’r Cylch Gorchwyl yn y cyfarfod diwethaf, drwy ddod â Menter ac Adfywio i mewn, a oedd yn adrodd gerbron Cymuned a Menter yn flaenorol.
Rhoddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio drosolwg o’r Gwasanaeth Menter ac Adfywio i ymgyfarwyddo’r Pwyllgor â’i agweddau gwaith ef:-
Swyddogaethau Gwasanaeth
· Datblygu Busnes
· Adfywio Tai
· Rhaglenni Cyflogadwyedd
· Gwerth Cymdeithasol
· Cysylltedd Digidol
· Adfywio
· Llywodraethu Economaidd
Holodd y Cynghorydd Heesom faint o Aelodau a allai oruchwylio a chyfranogi yn y broses adferiad economaidd. Rhoddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybod fod craffu ar y broses adferiad economaidd yn swyddogaeth bwysig o’r Pwyllgor hwn. Dywedodd ei fod yn agored i awgrymiadau gan Aelodau ynghylch sut y gellid gwella cyfathrebu.
Rhoddodd y Cynghorydd Shotton sylw ar faint o bwysau sy’n gorfod bod ar y Tîm Gwaith Cymunedol, a holodd a oedd Llywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth gan y byddai sawl swydd dan fygythiad. Ychwanegodd mai ailhyfforddi oedd yr allwedd i ennill cyflogaeth a gofynnodd a oedd gwaith yn dal yn mynd rhagddo, gan roi esiampl o faint oedd wedi’i wneud gyda’r Sector Gofal. Cytunodd Menter ac Adfywio ei fod yn amser anodd ar y funud, ond nid oedd hyn yn disgyn ar y Tîm Pwyllgorau dros Waith yn unig, roedd yn ymdrech a rennir, ac ni ellid rhagweld niferoedd, ond roedd sgwrs yn parhau i fod, i ddeall y pwysau cyfredol, ac fe roddwyd hyn yn adborth i Lywodraeth Cymru. Roedd rhai rhaglenni dal yn digwydd drwy ddysgu rhithwir, ond nid oedd modd anfon pobl i weithleoedd am brofiad gwaith.
Rhoddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybod fod pwynt y Cynghorydd Shotton am Gysylltedd Digidol yn gywir, yn y modd bod rhai darparwyr yn buddsoddi, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf poblog, ond ar draws Gogledd Cymru, nid oedd yn digwydd yn aml, gan nad oedd yn ardal ddeniadol i fuddsoddi ynddi’n naturiol. Pwysleisiodd y pwysigrwydd o raglen cynnig Twf i gysylltedd digidol.
Rhoddodd y Cynghorydd Hutchinson wybod fod yr hen Factory Shop ym Mwcle, a oedd yn eiddo i’w osod yn flaenorol, bellach ar werth, a chwestiynodd beth y gellid ei wneud i’r siop i ddenu cwmnïau, gan ei fod yn troi’n ddolur llygad. Rhoddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybod ei fod yn ymwybodol ei fod ar werth ac y gallai’r pris gwerthu ddenu diddordeb, gan nad oedd y pris gosod wedi llwyddo i wneud hynny. Rhoddodd wybod eu bod mewn cysylltiad â’r perchennog i roi cefnogaeth a deall eu hamcanion tymor hwy ar gyfer yr uned.
Cododd y Cynghorydd Hardcastle bryder am y diffyg ymgynghori am leoliadau’r polion gan BT Openreach. Ymatebodd y Rheolwr Menter ac Adfywio drwy ddweud bod gan y Cwmni Cyfleustodau rymoedd a hawliau sylweddol, o ran gosod eu hisadeiledd. Rhoddodd wybod eu bod yn siarad â’r Cyngor, ond bod gan y Cyngor reolaeth gyfyngedig dros beth maent yn ei wneud ac ni allant fynnu eu bod yn ymgynghori. Rhoddodd wybod y bydd adborth yn cael ... view the full Cofnodion text for item 13