Mater - cyfarfodydd

Response to the Recovery Strategy from Overview & Scrutiny

Cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet (eitem 23)

23 Ymateb i’r Strategaeth Adfer gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Galluogi’r Cabinet i dderbyn ymateb y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i’r Strategaeth Adfer.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad gan egluro bod dilyniant o gyfarfodydd arbennig y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi cael eu cynnal rhwng 21 a 28 Medi.  Ym mhob cyfarfod, rhoddwyd cyflwyniad llawn ar y Strategaeth Adfer gan y Prif Weithredwr, gyda chefnogaeth cydweithwyr.

 

            Roedd y Cabinet wedi gwahodd pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i gefnogi adfer yn eu meysydd portffolio nhw, ac yn benodol i oruchwylio:

 

  1. Cofrestr(au) risg portffolio a chamau lliniaru risg ar fyrder a rhai wedi’u cynllunio;
  2. Amcanion adfer ar gyfer y portffolio(s);
  3. Blaenoriaethau strategol uniongyrchol ar gyfer adfer y portffolio(s) o Gynllun Drafft y Cyngor ar gyfer 2020/21; ac
  4. Y gyfres o dargedau dangosyddion perfformiad diwygiedig ar gyfer portffolio(s) at 2020/21.

 

Ym mhob Pwyllgor, cafodd y Strategaeth a’r pedwar pwynt uchod eu cefnogi’n llawn. Cydnabuwyd bod y Pwyllgorau, wrth gyflawni’r rôl oruchwylio bwysig yma, yn rhan o’r strategaeth adfer ynddo’i hun i ailddechrau llywodraethu democrataidd llawn.

 

Cytunodd pob Pwyllgor i ail-lunio eu Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor, gyda Chynllunio i Adfer a Rheoli Risg yn ganolog iddynt. Yn ystod y pum cyfarfod, gofynnodd y Aelodau nifer o gwestiynau a gofynnwyd am eglurder ar rai materion. Ni nodwyd unrhyw risgiau penodol gan y Pwyllgorau a oedd angen sylw penodol.

 

Y diwrnod blaenorol roedd dogfen ryngweithiol wedi ei rhoi ar wefan y Cyngor ar y Strategaeth Adfer.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Croesawu cefnogaeth y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar gyfer y Strategaeth Adfer;

 

 (b)      Cydnabod bod Rhaglenni Gwaith i’r Dyfodol y pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael eu hail-lunio ar y sail bod Cynllunio i Adfer a Rheoli Risg yn rhan ganolog ohonynt, gyda materion eraill yn cael eu cyfyngu i faterion statudol a chylchol; a

 

 (c)       Chyhoeddi’r Strategaeth Adfer fel yr amlinellwyd hi yn y cyflwyniad i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar wefan y Cyngor ar gyfer sylw a sicrwydd y cyhoedd ehangach.