Mater - cyfarfodydd
Response to the Recovery Strategy from Overview & Scrutiny
Cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet (eitem 23)
23 Ymateb i’r Strategaeth Adfer gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu PDF 82 KB
Pwrpas: Galluogi’r Cabinet i dderbyn ymateb y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i’r Strategaeth Adfer.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad gan egluro bod dilyniant o gyfarfodydd arbennig y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi cael eu cynnal rhwng 21 a 28 Medi. Ym mhob cyfarfod, rhoddwyd cyflwyniad llawn ar y Strategaeth Adfer gan y Prif Weithredwr, gyda chefnogaeth cydweithwyr.
Roedd y Cabinet wedi gwahodd pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i gefnogi adfer yn eu meysydd portffolio nhw, ac yn benodol i oruchwylio:
- Cofrestr(au) risg portffolio a chamau lliniaru risg ar fyrder a rhai wedi’u cynllunio;
- Amcanion adfer ar gyfer y portffolio(s);
- Blaenoriaethau strategol uniongyrchol ar gyfer adfer y portffolio(s) o Gynllun Drafft y Cyngor ar gyfer 2020/21; ac
- Y gyfres o dargedau dangosyddion perfformiad diwygiedig ar gyfer portffolio(s) at 2020/21.
Ym mhob Pwyllgor, cafodd y Strategaeth a’r pedwar pwynt uchod eu cefnogi’n llawn. Cydnabuwyd bod y Pwyllgorau, wrth gyflawni’r rôl oruchwylio bwysig yma, yn rhan o’r strategaeth adfer ynddo’i hun i ailddechrau llywodraethu democrataidd llawn.
Cytunodd pob Pwyllgor i ail-lunio eu Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor, gyda Chynllunio i Adfer a Rheoli Risg yn ganolog iddynt. Yn ystod y pum cyfarfod, gofynnodd y Aelodau nifer o gwestiynau a gofynnwyd am eglurder ar rai materion. Ni nodwyd unrhyw risgiau penodol gan y Pwyllgorau a oedd angen sylw penodol.
Y diwrnod blaenorol roedd dogfen ryngweithiol wedi ei rhoi ar wefan y Cyngor ar y Strategaeth Adfer.
PENDERFYNWYD:
(a) Croesawu cefnogaeth y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar gyfer y Strategaeth Adfer;
(b) Cydnabod bod Rhaglenni Gwaith i’r Dyfodol y pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael eu hail-lunio ar y sail bod Cynllunio i Adfer a Rheoli Risg yn rhan ganolog ohonynt, gyda materion eraill yn cael eu cyfyngu i faterion statudol a chylchol; a
(c) Chyhoeddi’r Strategaeth Adfer fel yr amlinellwyd hi yn y cyflwyniad i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar wefan y Cyngor ar gyfer sylw a sicrwydd y cyhoedd ehangach.