Mater - cyfarfodydd

Theatr Clwyd redevelopment and the wider Mold Campus

Cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet (eitem 33)

Ailddatblygu Theatr Clwyd a Champws Yr Wyddgrug yn ehangach

Pwrpas:        I roi diweddariad i Aelodau am ailddatblygu’r Theatr ac adfywio safle campws yr Wyddgrug yn ehangach.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd mewn perthynas â cham 4, fod Cyngor Celfyddydau Cymru, trwy Lywodraeth Cymru, wedi dynodi cyllid o £3 miliwn er mwyn symud y prosiect yn ei flaen at ddiwedd cam 4, ac roedd angen cyfraniad o £110,000 o adnoddau cyfalaf y Cyngor Sir.

 

            Darparodd Neal Cockerton fanylion llawn am gefndir y gofynion cyllido a’r sefyllfa gyllido, gan egluro bod yr amcangyfrifon hyn yn gadarn ac wedi eu dilysu. Nid oedd unrhyw benderfyniad terfynol ar gyllid cyfalaf ar gyfer y Theatr wedi’i wneud hyd yn hyn. Bydd angen penderfyniad hwyrach unwaith i becyn cyllido digonol gael ei gytuno ar lefel genedlaethol.

 

            Eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd unrhyw rwymedigaeth ar y Cyngor ar y pwynt hwn yn y broses. Byddai angen penderfyniad pan fyddai manylion y cyllido yn hysbys.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Roberts, pan fyddai angen penderfyniad, byddai’n cael ei wneud gan y Cyngor Sir ac nid y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cabinet yn cefnogi symud i gam 4 (Dyluniad Technegol) prosiect adnewyddu’r Theatr; ac

 

 (b)      Na fydd y prosiect yn cael ei symud ymlaen tu hwnt i gam 4 tan i’r pecyn cyllido gael ei gadarnhau gan yr holl fudd-ddeiliaid.