Mater - cyfarfodydd

Public Services Ombudsman for Wales (PSOW) Casebook Issue 23 (October 2019 – December 2019) and the Annual Letter from the PSOW

Cyfarfod: 02/11/2020 - Pwyllgor Safonau (eitem 17)

17 Llawlyfr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) Rhifyn 23 (Hydref 2019 - Rhagfyr 2019) a'r llythyr blynyddol gan y OGCC pdf icon PDF 105 KB

Hysbysu’r Pwyllgor am gyhoeddiadau diweddaraf Llyfr Achos Cod Ymddygiad Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus ac i rhannu Llythyr Blynyddol yr Ombwdsman ar gyfer 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro’r adroddiad ar y deilliannau yn rhifyn diweddaraf Coflyfr Cod Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer y cyfnod o Hydref tan Ragfyr 2019. Rhoddodd drosolwg o’r ddwy g?yn yr ymchwiliwyd iddynt yn ystod y cyfnod lle penderfynwyd nad oedd angen gweithredu ymhellach.

 

Ynghylch Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon ar gyfer 2019/20, crynhowyd canlyniadau’r ddwy g?yn oedd yn ymwneud â Chynghorwyr Sir. Nodwyd bod y 14 c?yn yn erbyn Cynghorwyr Tref/Cymuned, y caewyd pob un ohonynt ar ôl rhoi ystyriaeth gychwynnol iddynt, yn cynnwys naw oedd yn ymwneud â’r un digwyddiad.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan Phillipa Earlam a’u heilio gan y Cynghorydd Paul Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn fodlon, ar ôl adolygu’r achosion a grynhowyd yn Rhifyn 23 y Coflyfr, nad oes angen i Gyngor Sir y Fflint weithredu ymhellach i osgoi cwynion tebyg; ac

 

 (b)      Ar ôl ystyried llythyr blynyddol yr Ombwdsmon, ac ar ôl ystyried a gweithredu ar ddeilliannau’r achos a gyfeiriwyd at Banel Dyfarnu Cymru, ac ar ôl nodi nad ymchwiliodd yr Ombwdsmon i’r cwynion eraill a wnaed yn ystod 2019/20, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oes angen gweithredu.