Mater - cyfarfodydd

Corporate Safeguarding Annual Report 2019/20

Cyfarfod: 17/11/2020 - Cabinet (eitem 44)

44 Adroddiad Blynyddol Diogelu Corfforaethol 2019/20 pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Cyflwyno adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol 2019/20 i'w gymeradwyo cyn ei gyhoeddi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd fod diogelu’n flaenoriaeth gorfforaethol ac yn ddisgyblaeth yr oedd disgwyl i bob portffolio ymgymryd â hi a’i chefnogi fel arfer corfforaethol da.

 

Ffurfiwyd y Panel Diogelu Corfforaethol ym mis Rhagfyr 2015.  Roedd yr adroddiad yn nodi’r trefniadau diogelu corfforaethol cadarn a oedd wedi’u rhoi ar waith, oedd yn cynnwys:

 

  • Gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru ar Ymgyrch Encompass, menter i gefnogi plant a phobl ifanc a oedd yn dioddef neu’n gweld yr heddlu’n delio â digwyddiadau cam-drin domestig;

 

  • Gweithdai Cyfiawnder mewn Diwrnod yn Theatr Clwyd. Roedd y perfformiad rhyngweithiol hwn yn cynnwys gweithdy gyda thîm o actorion proffesiynol ac ymweliad â Llys Ynadon yr Wyddgrug, lle cymerodd Ynad ran yn y gweithgaredd; a

 

  • Darparu hyfforddiant diogelu i dros 400 o yrwyr tacsis i sicrhau eu bod yn gwybod am arwyddion camdriniaeth bosib a sut i adrodd am achosion o’r fath;

 

Roedd Sir y Fflint yn ymrwymo i’w chyfrifoldebau ac roedd wedi cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod trefniadau cadarn i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y camau gweithredu allweddol i gael eu cwblhau yn 2021/21 yn cynnwys cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Diogelu 2020 i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am faterion diogelu, gan gynnwys caethwasiaeth fodern; annog cyflogwyr i gwblhau modiwl e-ddysgu Llywodraeth Cymru “Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn Erbyn Merched” i gael cyfradd gwblhau o 100% erbyn Mawrth 2021; a chodi ymwybyddiaeth o Weithdrefnau Diogelu newydd Cymru.

 

Diolchodd i’r holl gydweithwyr am eu cyfraniad at yr adroddiad. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell ar Addysg Ddewisol yn y Cartref a diogelu, dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ei bod yn her ond bod Llywodraeth Cymru (LlC) yn gwneud cynnydd ar gofrestr genedlaethol fel bod asiantaethau’n gwybod lle’r oedd plant. Os oedd y plentyn wedi bod yn yr ysgol ac wedyn wedi’i dynnu allan i gael Addysg Ddewisol yn y Cartref, byddai’r awdurdod ac asiantaethau’n ymwybodol ohono. Fod bynnag, os nad oeddent erioed wedi bod yn yr ysgol, ni fyddem yn gwybod amdanynt na ble’r oeddent. Croesawai fod cofrestr genedlaethol yn cael ei chyflwyno.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cabinet wedi’u sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud i wella trefniadau corfforaethol ar gyfer diogelu plant ac oedolion; a

 

 (b)      Chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Diogelu Corfforaethol 2019/20, cyn ei gyhoeddi.