Mater - cyfarfodydd

Annual Performance Report 2019/20

Cyfarfod: 20/10/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 17)

17 Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20 pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i ardystio Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20, fel yr argymhellwyd gan y Cabinet, er mwyn ei gyhoeddi cyn y dyddiad cau. Adroddiad statudol yw hwn sy’n rhoi trosolwg ôl-weithredol o berfformiad yn erbyn y blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor 2019/20, gan ddangos cynnydd cadarnhaol yn erbyn prif weithgareddau a chanlyniadau dangosyddion perfformiad.

 

Rhoddodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol ac Ymgynghorydd Perfformiad Strategol gyflwyniad yn ymdrin â’r canlynol:

 

·         Trosolwg o Berfformiad 2019/20

·         Cynnydd yn erbyn Blaenoriaethau’r Cyngor

·         Cynnydd yn erbyn Is-flaenoriaethau

·         Uchafbwyntiau

·         Meysydd i’w Gwella

·         Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

·         Trosolwg o Berfformiad - Cynllun y Cyngor

·         Trosolwg Cenedlaethol

·         Trosolwg o Berfformiad

·         Y Camau Nesaf

 

Dangosodd trosolwg o berfformiad bod cynnydd da dros y blynyddoedd diweddar wedi cael ei gynnal yn 2019/20. Roedd y pedwar maes a nodwyd ar gyfer gwelliant yn parhau i gael eu monitro, gyda chynnydd eisoes yn cael ei wneud ar fynd i’r afael â digartrefedd ac absenoldeb salwch.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Carolyn Thomas a’i eilio gan y Cynghorydd Mullin.Fel Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad, rhoddodd y Cynghorydd Thomas deyrnged i’r cyflawniadau yn y meysydd hynny.Diolchodd i’r tîm Gwasanaethau Stryd a phreswylwyr am berfformiad cryf yn erbyn targedau ailgylchu gan dynnu sylw at amryw o ganlyniadau cadarnhaol megis rhaglen llenwi tyllau yn y ffordd, cyflwyno cynlluniau priffyrdd a mentrau amrywiol roedd y tîm Cefn Gwlad wedi eu cyflawni.Roedd hi hefyd yn croesawu’r gwaith ar newid hinsawdd/lleihau carbon a oedd yn flaenoriaeth i’r Cyngor.

 

Diolchodd y Cynghorydd Richard Jones i swyddogion am yr adroddiad cadarnhaol.Yn ei farn o, fe ddylai fod yna fwy o aliniad rhwng yr amcanion yn y Cynllun Llesiant a Chynllun y Cyngor a fyddai’n cyd-fynd yn well â’r portffolios.Gan nodi’r dirywiad disgwyliedig yng nghyflwr ffyrdd dosbarth A a B, roedd yn cydnabod y gallai’r gwelliant yn ffyrdd dosbarth C fod am eu bod wedi cael eu cynnwys yn y rhaglen llenwi tyllau ffordd.

 

Gan ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr bod y gwaith wedi dechrau ar Gynllun y Cyngor 2020/21 a byddai’r sylwadau yma’n cael eu hystyried yn llawn. Byddai’r cyfarfod ym mis Rhagfyr yn gyfle i ystyried y fformat a sut oedd y ffordd orau o gyflwyno’r bwriad, cynnwys a gwerthoedd y tu ôl i Gynllun y Cyngor.Byddai swyddogion yn darparu eglurhad am y nifer gwahanol o fesurau atebolrwydd cyhoeddus (MAC) ar ôl y cyfarfod.

 

Yn ystod yr eitem, fe ganmolodd nifer o Aelodau yr ystod o gyflawniadau a diolch i swyddogion am eu gwaith yn ystod y pandemig.

 

Canmolodd y Cynghorydd Paul Shotton y tîm yng ngwasanaeth gofal dydd Hwb Cyfle mewn partneriaeth â Home Farm Trust, ynghyd â chwblhau’r gwaith adeiladu yn Ysgol Uwchradd Cei Connah.

 

Tra’n nodi llwyddiant Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor, fe awgrymodd y Cynghorydd Peers bod timau Strategaeth Tai a Chynllunio yn rhoi ystyriaeth fanwl i fynd i’r afael â diffyg cyflenwad o dai fforddiadwy gan y sector preifat.Gofynnodd am gynnydd o ran datblygiad  ...  view the full Cofnodion text for item 17