Mater - cyfarfodydd
Pooling Investments in Wales
Cyfarfod: 07/10/2020 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 113)
113 Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru PDF 117 KB
Pwrpas: Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar gyfuno buddsoddiadau yng Nghymru ar gyfer trafodaeth.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Pooling Investments in Wales, eitem 113 PDF 122 KB
- Enc. 2 for Pooling Investments in Wales, eitem 113 PDF 108 KB
- Enc. 3 for Pooling Investments in Wales, eitem 113 PDF 93 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru
Cofnodion:
Gwnaeth Mr Latham sylw ar ddwy agwedd o Bartneriaeth Pensiwn Cymru; llywodraethu a buddsoddiadau.Cyhoeddodd Mr Latham fod llawer o gynnydd wedi’i wneud yn ddiweddar ar yr ochr lywodraethu, a fod nifer o bolisïau wedi’u cynhyrchu (cyfeirir atynt yn eitem 1.01). Roedd cynllun busnes bellach ar waith ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru, polisi gwrthdaro buddiannau, cynllun hyfforddi, polisi risg a chofrestr risg.
Cododd Mr Latham y cwestiwn parhaus sef a ddylai Partneriaeth Pensiwn Cymru gael cynrychiolydd aelodau’r cynllun, a chyhoeddodd y bydd y mater yn cael ei ystyried yn y Cydbwyllgor Llywodraethu nesaf. Trafododd y Pwyllgor hyn a nodwyd eu cefnogaeth gryf i hyn.
O ran ochr fuddsoddi’r gronfa, penodwyd Robeco fel Ymgynghorydd Pleidleisio ac Ymgysylltu ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru a oedd yn benodiad allweddol i’r gronfa. Nododd Mr Hibbert ei fod eisoes wedi codi cwestiynau a phryderon gyda Mrs Fielder yn ymwneud â gallu’r Pwyllgor i fesur gweithgarwch Robeco ar ran y Pwyllgor. Ymatebodd gan ddweud bod hyfforddiant wedi’i gynnal ar y mater hwn y diwrnod cynt ac roedd Mrs Fielder eisoes wedi codi’r pwynt hwn â Robeco.
O ystyried pwysigrwydd buddsoddi cyfrifol a’r risg hinsawdd, mae is-gr?p Buddsoddi Cyfrifol newydd wedi’i gytuno, a fydd yn adrodd i’r Gweithgor Swyddogion ar sut i weithredu, mesur ac adrodd ar gynnydd gyda’r polisïau hyn. Byddai Mrs Fielder ar yr is-gr?p Buddsoddi Cyfrifol newydd ac felly’n adrodd i’r Gweithgor Swyddogion. Roedd Mrs Fielder yn falch o’r penderfyniad i greu is-gr?p Buddsoddi Cyfrifol newydd a theimlwyd y byddai’n fanteisiol i’r Gronfa gael ei chynrychioli arno. Nododd y byddai’r gr?p yn cael eu gwahodd i bob cyfarfod perthnasol a sesiynau gr?p cleient Robeco. Rhoddwyd y dasg o ystyried y polisi pleidleisio sydd ar waith ar hyn o bryd i’r gr?p a nododd Mr Latham fod gan y mwyafrif o gronfeydd eraill swyddog Buddsoddi Cyfrifol sy’n arbenigo yn y maes hwn. Er fod gan Mrs Fielder lefel uchel iawn o wybodaeth am Fuddsoddi Cyfrifol, roedd ganddi hefyd nifer o rolau a chyfrifoldebau eraill yn y Gronfa.
Yn dilyn cymeradwyaeth yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mehefin 2019, roedd £200 miliwn o asedau’r Gronfa wedi’u trosglwyddo o gyllidau credyd aml-ased Stone Harbour i gronfa credyd aml-ased Partneriaeth Pensiwn Cymru. Nodwyd hefyd y byddai Link a Russell yn mynychu cyfarfod nesaf y Pwyllgor ac yn trafod ecwitïau marchnadoedd newydd.Roedd y dyddiad cau gwreiddiol wedi’i drefnu ar gyfer Mehefin 2020 o fewn cynllun gwaith Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer is-gronfa ecwitïau marchnadoedd newydd.Fodd bynnag, mae’r dyddiad bellach wedi newid i Mai 2021.
Eglurodd Mr Latham fod holiadur yn cael ei baratoi ar gyfer awdurdodau cyfansoddol gyda’r bwriad o’i rannu â phob aelod o’r Pwyllgor. Bwriad yr holiadur yw cael amcan o farn pob awdurdod o Bartneriaeth Pensiwn Cymru a llywio’r ffocws i’r dyfodol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Bateman at yr eitem rheoli risg ar dudalen 330 a oedd yn nodi fod risg llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru yn y categori ‘sylweddol’ yng nghofrestr risg y Gronfa. Gofynnodd a ddylai’r Pwyllgor bryderu ... view the full Cofnodion text for item 113