Mater - cyfarfodydd
McCloud Update and Consultation Response
Cyfarfod: 07/10/2020 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 111)
111 Diweddariad McCloud ac Ymateb i'r Ymgynghoriad PDF 115 KB
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar McCloud ac ymateb i’r ymgynghoriad drafft Cronfa Bensiynau Clwyd ar gyfer ei gymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for McCloud Update and Consultation Response, eitem 111 PDF 263 KB
- Enc. 2 for McCloud Update and Consultation Response, eitem 111 PDF 663 KB
- Enc. 3 for McCloud Update and Consultation Response, eitem 111 PDF 293 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Diweddariad McCloud ac Ymateb i'r Ymgynghoriad
Cofnodion:
Cyflwynodd Mrs Williams yr adroddiad hwn ac eglurodd fod y datrysiad McCloud yn achos o wahaniaethu ar sail oedran. Roedd y Llys Apêl o’r farn y gwahaniaethwyd yn erbyn aelodau iau o’r cynlluniau Pensiwn Dyfarnwyr a Diffoddwyr Tân oherwydd nad oedd yr amddiffyniadau i aelodau h?n yn berthnasol iddyn nhw. Bydd effaith y datrysiad McCloud arfaethedig yn sylweddol ar gyfer cyflogwyr a’r tîm gweinyddol gan y gallai gynnwys ystyried a chywiro tua 12,000 o fuddion aelodau yn y Gronfa yn seiliedig ar y cyfrif cychwynnol. Y n sgil pwysigrwydd y gwaith sydd ynghlwm â hyn, roedd y Gronfa wedi sefydlu rhaglen ffurfiol i sicrhau y byddai’r gwaith mewn perthynas â’r datrysiad McCloud yn cael ei gwblhau’n unol â’r meini prawf llwyddiant cytunedig.
Cyfeiriodd Mrs Williams at yr ymateb i’r ymgynghoriad ar McCloud, a rannwyd â’r Pwyllgor ar 14 Medi, ar ôl iddo gael ei gytuno gan y Gr?p Llywio a oedd yn cynnwys Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun y Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiynau. Gofynnodd Mrs Williams am ragor o sylwadau ar yr ymateb i’r ymgynghoriad ac ni wnaethpwyd unrhyw sylwadau.
Cyfeiriodd Mrs Williams y Pwyllgor at y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen McCloud yn yr atodiad i’r adroddiad. Eglurodd fod y tîm hefyd yn gweithio ar holiadur cyflogwr i ganfod sut y darparwyd data dros y blynyddoedd a pha ddata y dylid ei gasglu/gadarnhau er mwyn symud ymlaen â’r datrysiad McCloud. Byddai cyfarfodydd un-i-un yn cael eu cynnal gyda phob cyflogwr i drafod y gofynion data.
Roedd y gronfa wedi bod yn gweithio gyda darparwr y rhaglen gweinyddu pensiynau i sicrhau fod yr offerynnau meddalwedd priodol ar gael i gasglu a mewnbynnu data, a bydd prosesau mewnol y Gronfa yn cael eu haddasu i fodloni gofynion newydd McCloud ar gyfer cyfrifiadau buddion aelodau’r cynllun.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad.
(b) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r ymateb i’r ymgynghoriad drafft Cronfa Bensiynau Clwyd.