Mater - cyfarfodydd

Independent Remuneration Panel for Wales (IRPW) Annual Report for 2020/21

Cyfarfod: 14/10/2020 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 5)

5 Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2021/22 pdf icon PDF 87 KB

Galluogi’rpwyllgor i dderbyn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2021/22, sy’n pennu taliadau i aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig am y flwyddyn nesaf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) ar gyfer 2021/22, a oedd yn pennu cyfraddau taliadau i’w gwneud i aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig Awdurdodau Lleol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dywedodd bod IRPW wedi anfon Adroddiad Blynyddol drafft at Gynghorau Sir ar 28 Medi, yn gofyn i sylwadau gael eu gwneud erbyn 23 Tachwedd 2020.  Roedd gofyn i IRPW gymryd i ystyriaeth sylwadau a dderbyniwyd yngl?n â’r adroddiad drafft cyn cyhoeddi fersiwn derfynol o’r adroddiad ym mis Chwefror 2021. 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi gwneud 48 o Benderfyniadau ar gyfer 2021/22, ac roedd 24 ohonynt yn uniongyrchol berthnasol i Gyngor Sir y Fflint.  Rhestrir penderfyniadau’r Panel ar gyfer 2021/22 yn Atodiad 1 yr adroddiad. Dywedodd bod IRPW wedi cynnig bod cyflog sylfaenol aelodau etholedig y prif gynghorau yn 2021/22 yn £14,368 ac y byddai’n dod i rym ar 1 Ebrill 2021.  Roedd hwn yn gynnydd o £150 ar lefel 2020/21. Roedd cynnydd o 1.06% yn cael ei gynnig hefyd ar gyfer cyflogau uwch a dinesig. Cynigodd y Panel hefyd gynnydd o £12 i gyfradd ddyddiol aelodau cyfetholedig cyffredin Pwyllgorau i £210.  Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd at y prif benderfyniadau yn yr adroddiad.

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ted Palmer, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd mai mater i’r unigolion oedd penderfynu a oeddent am dderbyn neu wrthod y taliad cyfan neu ran o’r taliad yr oedd ganddynt hawl iddo. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at Adran 15, paragraff 15.3 yn adroddiad IRPW. Ymatebodd y Prif Swyddog i’r cwestiwn yngl?n â chyflogau Penaethiaid Gwasanaethau a Delir a Phrif Swyddogion y prif gynghorau a thynnodd sylw at y wybodaeth ym mharagraff 15.1.  

 

Cododd y Cynghorydd Bithell gwestiwn arall yn ymwneud â chofnodi presenoldeb Aelodau mewn cyfarfodydd. Dywedodd, er bod presenoldeb yn cael ei gofnodi yn y mwyafrif o gyfarfodydd y Cyngor, roedd nifer sylweddol o gyfarfodydd ychwanegol yr oedd yr Aelodau yn eu mynychu fel rhan o’u dyletswyddau, nad oeddent yn cael eu cofnodi, a chyfeiriodd at gyfarfodydd is-bwyllgorau, Paneli, sefydliadau a chyrff allanol fel enghreifftiau.   Pwysleisiodd pa mor bwysig yw codi ymwybyddiaeth a sicrhau’r cyhoedd bod Aelodau yn cyflawni eu dyletswyddau. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd bod yr Awdurdod yn cofnodi aelodaeth a lefelau presenoldeb aelodau etholedig mewn pwyllgorau penodol yn yr Awdurdod a hefyd ei fod yn cofnodi presenoldeb mewn cyfarfodydd eraill ac roedd y wybodaeth hon ar gael ar wefan yr Awdurdod. Dywedodd y gallai Aelodau gyfeirio at yr holl gyfarfodydd y maent yn eu mynychu yn eu Hadroddiadau Blynyddol. Dywedodd y Prif Swyddog bod rhestr statudol o’r cyfarfodydd y gofynnir i’r Awdurdod gofnodi presenoldeb Aelodau ynddynt a chadarnhaodd bod yr Awdurdod hefyd yn cofnodi pa Aelodau sy'n aelodau o gyrff allanol hefyd.  Awgrymodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd bod adroddiadau rheolaidd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor am y digwyddiadau datblygu a briffio a gynhelir gan yr Awdurdod ac enwau’r Aelodau sy’n bresennol.

Cyfeiriodd  ...  view the full Cofnodion text for item 5