Mater - cyfarfodydd
Annual Performance Report 2019/20
Cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet (eitem 25)
25 Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20 PDF 99 KB
Pwrpas: Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20 cyn i’r Cyngor Sir ei ardystio a’i gyhoeddi.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Annual Performance Report 2019/20, eitem 25 PDF 847 KB
- Enc. 2 for Annual Performance Report 2019/20, eitem 25 PDF 312 KB
- Enc. 3 for Annual Performance Report 2019/20, eitem 25 PDF 88 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad a oedd yn adolygu cynnydd y Cyngor yn erbyn Blaenoriaethau’r Cyngor fel yr oeddent yng Nghynllun y Cyngor 2019/20.
Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu’r cynnydd cyffredinol a wnaed yn erbyn y blaenoriaethau a lefel yr hyder o ran cyflawni’r canlyniadau dymunol. Roedd hefyd yn dangos y sefyllfa o ran 53 risg y Cyngor, gyda phedair risg wedi cynyddu o ran arwyddocâd yn ystod y flwyddyn, a 16 risg wedi gostwng o ran arwyddocâd erbyn diwedd y flwyddyn.
Eglurodd y Prif Weithredwr bod y perfformiad yn erbyn mesurau Cynllun y Cyngor yn gadarnhaol, gydag 88% o’r gweithgareddau allweddol y cytunwyd arnynt yn gwneud cynnydd da a 91% yn debygol o gyflawni’r canlyniad dymunol. Yn ogystal â hyn, mae 78% o'r dangosyddion perfformiad wedi'u diwallu neu wedi rhagori ar y targed ar gyfer y flwyddyn, ac mae 59% wedi dangos gwelliant neu wedi aros yn sefydlog.
Mae'r risgiau’n cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif wedi'u hasesu fel cymedrol (68%) neu fach/ansylweddol (17%); roedd 15% o’r risgiau yn dangos statws risg uchel ar ddiwedd y flwyddyn, yn sgil diffyg adnoddau ariannol yn bennaf.
Roedd yn rhaid i’r Cynllun gael ei fabwysiadu erbyn 31 Hydref ac roedd yn cael ei ystyried yng nghyfarfod y Cyngor Sir yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20 i’w argymell i’r Cyngor ei fabwysiadu.