Mater - cyfarfodydd
Theatr Clwyd Transfer Proposal Report
Cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet (eitem 32)
Adroddiad Cynnig Trosglwyddo Theatr Clwyd i Fodel Cyflenwi Amgen Ymddiriedolaeth
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ar y cynnydd hyd yma ar y rhaglen i drosglwyddo Theatr Clwyd a Gwasanaethau Cerdd o reolaeth y cyngor i fodel ymddiriedolaeth elusennol a chynnig amserlen a thelerau trosglwyddo.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2
- Restricted enclosure 3
- Restricted enclosure 4
- Restricted enclosure 5
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Cynnig Trosglwyddo Theatr Clwyd i Fodel Cyflenwi Amgen Ymddiriedolaeth
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad oedd yn crynhoi’r sefyllfa ddiweddaraf ar Gynnig Trosglwyddo Theatr Clwyd, ac yn cynnig telerau ac amserlen y trosglwyddiad i ymddiriedaeth elusennol annibynnol ar gyfer gweithrediadau’r theatr a gwasanaethau cerddoriaeth.
Eglurodd y Prif Weithredwr bod y gwaith ar y trywydd iawn ar gyfer trosglwyddo i’r model llywodraethu a argymhellwyd ar amser.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo trosglwyddo Theatr Clwyd a’r Gwasanaeth Cerddoriaeth i gorff elusennol newydd ar 31 Mawrth 2021, a bod Bwrdd Cysgodol yn cael gwahoddiad i lofnodi cytundeb ffurfiol ar gyfer trosglwyddo;
(b) Cymeradwyo egwyddorion y trosglwyddiad fel y nodir yn yr adroddiad;
(c) Cymeradwyo cynigion penodol ar gyfer trosglwyddo fel fframwaith ar gyfer cytundeb contract gwasanaeth fel y nodir yn yr adroddiad;
(d) Derbyn adroddiad llawn a therfynol ar ddiwydrwydd dyladwy, a bod penderfyniad unrhyw fanylion cytundeb contract gwasanaeth gweddillol, unwaith y ceir adborth, yn cael ei dderbyn gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, ynghyd â chynnig ffurfiol gan y Bwrdd Cysgodol.