Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 5)

Cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet (eitem 26)

26 Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 5) pdf icon PDF 177 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2020/21 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 5 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad oedd yn rhoi manylion y risgiau a’r materion hysbys ar gyfer 2020/21 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb ei newid. Roedd hefyd yn ystyried y safle ddiweddaraf ar gyhoeddiadau Cyllido Grant Brys Llywodraeth Cymru.

 

            Y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw wrth gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

  • Diffyg gweithredol o £0.921 miliwn (ac eithrio effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn)
  • Rhagamcanwyd y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2021 yn £1.418 miliwn.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

  • Rhagwelid y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.364 miliwn yn is na’r gyllideb
  • Rhagwelwyd mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2021 fydd £2.537 miliwn.

 

Er mwyn cynorthwyo i liniaru’r gorwariant cyffredinol a ragwelir roedd adolygiad o wariant dianghenraid a phroses rheoli unedau gwag wedi cael ei rhoi ar waith. Roedd hyn wedi arwain at ostyngiad dros dro mewn gwariant o -£0.316 miliwn ym Mis 5, oedd wedi helpu i leihau’r gorwariant cyffredinol. Roedd hyn ychwanegol at y £0.319 miliwn a ganfuwyd ym Mis 4 gyda chyfanswm arbedion hyd yn hyn o £0.635 miliwn.

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion llawn ar y sefyllfa a ragwelir ym mhob portffolio; amrywiadau sylweddol; risgiau agored; risgiau newydd; cyllid at argyfwng; cyflawni arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u cynllunio yn ystod y flwyddyn; a chronfeydd wrth gefn a balansau.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth; a

 

 (b)      Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragamcanwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai.