Mater - cyfarfodydd

Directions from the President of the Adjudication Panel for Wales

Cyfarfod: 02/11/2020 - Pwyllgor Safonau (eitem 15)

15 Cyfarwyddiadau gan Lywydd Panel Dyfarnu Cymru pdf icon PDF 81 KB

Ystyried y cyfarwyddiadau a gafwyd gan Lywydd Panel Dyfarnu Cymru ar rôl y Swyddog Monitro yn nhrafodion, datgeliad a thystiolaeth ddienw Panel Dyfarnu Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried y cyfarwyddiadau a dderbyniwyd gan Lywydd Panel Dyfarnu Cymru (APW) ar swyddogaeth y Swyddog Monitro mewn achosion APW, datgelu, a gwneud tystiolaeth tystion a thrydydd partïon yn ddienw.

 

Eglurodd y Swyddog Monitro fod y mater wedi codi yn dilyn ei gais ysgrifenedig i Lywydd APW am eglurder ynghylch y broses yn ystod achosion tribiwnlys.  Rhoddodd drosolwg o’r tri chyfarwyddyd ymarfer a gyhoeddwyd wedi hynny, sy’n helpu i sicrhau cysondeb, tegwch a thryloywder mewn tribiwnlysoedd, ond nad ydynt yn rhwymol yn gyfreithiol.  Byddai’n rhaid i’r Pwyllgor ystyried y rhain mewn unrhyw wrandawiadau yn y dyfodol.

 

Pasiwyd yr argymhelliad ar ôl iddo gael ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Paul Johnson a Julia Hughes.  Gofynnodd y Cynghorydd Heesom am gael cofnodi'r ffaith iddo ymatal rhag pleidleisio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn croesawu’r cyfarwyddiadau ymarfer, ac yn cytuno i ystyried gweithredu egwyddorion tebyg (fel bo’n briodol) lle bo'r angen mewn unrhyw wrandawiad gerbron y Pwyllgor.