Mater - cyfarfodydd
Overview of Ethical Complaints
Cyfarfod: 02/11/2020 - Pwyllgor Safonau (eitem 16)
16 Trosolwg o Gwynion Moesegol PDF 82 KB
Bod y Pwyllgor yn nodi'r nifer a'r mathau o gwynion.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Overview of Ethical Complaints, eitem 16 PDF 252 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Trosolwg o Gwynion Moesegol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad rheolaidd ar y nifer o gwynion moesegol a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn honni bod y Cod Ymddygiad wedi’i dorri.
Ers yr adroddiad diwethaf, cyflwynwyd cyfanswm o 16 o gwynion. Fel y cytunwyd yn flaenorol, roedd y wybodaeth yn ddienw, gyda chyfeirinodau’n cael eu rhoi i wahaniaethu rhwng Cynghorau a Chynghorwyr unigol ar gyfer pob cyfnod. Tynnwyd sylw at un g?yn unigol a wnaed yn erbyn naw Cynghorydd ar yr un pryd, y bu’n rhaid ei hadrodd fel cwynion ar wahân.
Mewn ymateb i gwestiynau gan Julia Hughes, cytunodd y Swyddog Monitro i ymchwilio a oedd y g?yn â’r cyfeirnod 16/7020 yn ymwneud â Chyngor Tref ynteu â Chyngor Cymuned. Ynghylch cyfeirnod 17/7925, eglurodd fod y geiriad coll yn dangos na thorrwyd y Cod, yn unol â’i gyngor ef.
Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Andy Trumper, eglurodd y Swyddog Monitro’r amserlenni targed sy’n berthnasol i amrywiol gamau’r broses. Dywedodd hefyd y gallai newidiadau o fewn Panel Dyfarnu Cymru helpu i gyflymu’r broses o pan wneir cwyn i pan gynhelir gwrandawiad y tribiwnlys achos yn y dyfodol.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Arnold Woolley a’i eilio gan Julia Hughes.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r nifer a’r mathau o g?ynion.