Mater - cyfarfodydd
Public Services Ombudsman for Wales
Cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet (eitem 28)
28 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru PDF 101 KB
Pwrpas: Rhannu Llythyr Blynyddol yr Ombwdsman a darparu trosolwg o lwyth achosion a pherfformiad Cyngor Sir y Fflint ar gyfer 2019-20.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Public Services Ombudsman for Wales, eitem 28 PDF 108 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad i rannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2019/20 ar gyfer Cyngor Sir y Fflint.
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y Llythyr Blynyddol yn rhoi manylion am berfformiad blynyddol y Cyngor mewn perthynas â chwynion am wasanaethau a gafodd eu derbyn a’u harchwilio gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod 2019/20.
Byddai adroddiad tebyg yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Safonau. Roedd nifer y cwynion yn eithaf uchel yn seiliedig ar faint y boblogaeth, ond roedd hyn yn sgil nifer o gwynion yn mynd yn uniongyrchol i’r Ombwdsman yn hytrach nac i Sir y Fflint yn gyntaf.
Mewn adroddiad a gafodd ei ystyried gan y Cabinet y llynedd, roedd yr Ombwdsmon wedi cynnig gweithio gyda’r awdurdodau lleol ym Mawrth 2020 i wella ansawdd delio â chwynion. Yn sgil y pandemig, nid oedd wedi gallu digwydd ond roedd sesiynau ar-lein wedi cael eu trefnu ar gyfer Ionawr 2021 i ddelio â materion atgyfeirio cwynion yn gynnar at yr Ombwdsmon.
Croesawai’r aelodau yr ymrwymiad i adolygu gweithdrefn gwyno fewnol y Cyngor a’r hyfforddiant. Cafwyd trafodaeth ar ddefnyddio dulliau amhriodol i wneud cwynion fel y cyfryngau cymdeithasol. Roedd cwyno trwy’r dulliau hyn yn ei gwneud yn anoddach delio ag achosion oherwydd y gwaith i bennu pwy oedd wedyn yn delio â’r g?yn.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Banks, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y nifer o gwynion a nodwyd yn yr adroddiad wedi’u rhannu rhwng cwynion gwasanaeth a chwynion moesegol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi perfformiad blynyddol y Cyngor, gan gynnwys canran y cwynion cynamserol, y tu hwnt i awdurdodaeth y Cyngor neu rai wedi’u cau ar ôl ystyriaeth gychwynnol gan yr Ombwdsmon;
(b) Cefnogi’r camau i wella’r broses o ddelio â chwynion ar draws y Cyngor; a
(c) Cefnogi’r camau i adolygu polisi cwynion y Cyngor erbyn 31 Mawrth 2021.