Mater - cyfarfodydd
Emergency Situation Briefing (Verbal)
Cyfarfod: 24/09/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 5)
Briffio ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar)
Pwrpas: Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.
Cofnodion:
Fe eglurodd y Prif Weithredwr fod y sefyllfa bresennol yn un ansefydlog. Byddai ef a’r Uwch Swyddogion yn sicrhau bod Aelodau yn cael diweddariad byr ar lafar ar ddechrau cyfarfodydd. Dywedodd hefyd y gallai fod yn angenrheidiol ailgyflwyno’r briff ar y sefyllfa, a roddwyd i Aelodau yn ystod chwe mis cyntaf yr argyfwng.
Canmolodd y Cadeirydd y Prif Weithredwr a Swyddogion y Cyngor am eu gwaith caled mewn amgylchiadau heriol iawn.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r diweddariad ar lafar.