Mater - cyfarfodydd
Recovery Strategy (Streetscene and Transportation Portfolio)
Cyfarfod: 21/09/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 8)
8 Strategaeth Adferiad (Portffolio Stryd a Chludliant) PDF 90 KB
Pwrpas: Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor ac ailadeiladu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21 gyda chanolbwynt penodol ar gynllunio adferiad.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Streetscene and Transportation Portfolio - Risk Register - Published 15.09.2020, eitem 8 PDF 136 KB
- Appendix 2 - Streetscene and Transportation Portfolio - Risk Mitigation Actions - Published 15.09.2020, eitem 8 PDF 141 KB
- Appendix 3 – The full set of strategic priorities for recovery recommended for extraction from the draft Council Plan for 2020/21 and inclusion in the Recovery Strategy, eitem 8 PDF 93 KB
- Appendix 4 – The full set of revised performance indicator targets for 2020/21., eitem 8 PDF 148 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Adferiad (Portffolio Stryd a Chludliant)
Cofnodion:
Rhoddodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) gyflwyniad oedd yn rhoi cefndir yngl?n â risgiau a nodwyd. Gyda’r Uwch Dîm Rheoli, roedden nhw wedi nodi 47 risg gwahanol ar draws Cyllid, Gweithlu, Asedau Eiddo, Llywodraethu/Cyfreithiol, Rheoliadau Allanol, TGCh a Systemau, Cyflenwi Gwasanaeth, Polisi Priffyrdd, Fflyd, Strategaeth Gwastraff a Pharcio a Gorfodi, ac roedd 2 o’r rhain wedi eu cau ond yn cael eu hadolygu’n wythnosol. Wrth symud i fisoedd y gaeaf roedd risgiau newydd yn dod i’r amlwg a byddent yn parhau i gael eu monitro.
Rhoddodd fwy o wybodaeth yngl?n â’r meysydd penodol canlynol:
Cyllid
ST09 - Marchnad ar gyfer ailwerthu deunydd eildro yn hynod anwadal. Adroddodd fod newid mawr yn y prisiau maen nhw’n eu derbyn am blastig, papur a gwydr ayyb ac yn anffodus mae’r rhan fwyaf ohonynt yn llithro gan osod pwysau sylweddol ar fusnesau ond yn creu problemau hefyd i staff sy'n ceisio dod o hyd i farchnadoedd parod ar gyfer y deunydd.
ST10a – Gwastraff cyffredinol y codi rhwng 10 - 20% yn rhanno oherwydd nifer y bobl sy’n gweithio o gartref, yn treulio mwy o amser yn y cartref a heb deithio ar wyliau gan arwain at gadw’r gwastraff yn yr ardal hon. Mae nifer y tunelli ar gynnydd sy’n achosi pwysau o ran ffi glwyd ychwanegol ond mwy o waith i staff hefyd wrth gasglu gwastraff o ochr y ffordd.
Gweithlu
ST12 – Gostyngiad yn nifer y gweithwyr a’r contractwyr rheng flaen i gyflawni gwasanaethau yn ddiogel oherwydd lefelau uwch o salwch.
ST17a – Cynnydd yn y perygl o ddioddef oherwydd iechyd a lles meddyliol, materion personol ac/neu deuluol.
Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i'r Gwasanaethau Stryd am ddychwelyd i sefyllfa fwy arferol yn enwedig o ran torri gwair yn ei ardal ef. Rhoddodd wybod fod y Goruchwyliwr Dros Dro wedi bod mewn cysylltiad gydag Aelodau Cei Connah er mwyn cynnig yr ardaloedd oedd angen eu glanhau’n ddifrifol, yn debyg i’r un ddigwyddodd yn Shotton.
Rhoddodd y Cynghorydd Carolyn Thomas wybod am Ymgyrch Ailgylchu yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei lansio, gan weithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol o’r enw ymgyrch ‘Bydd Wych, Ailgylcha’.Ychwanegodd y byddai llawer o gyhoeddusrwydd yngl?n â hyn er mwyn annog pobl i ailgylchu a chodi’r cyfraddau unwaith eto, fyddai hefyd yn atal gollwng sbwriel hefyd gobeithio.
Gofynnodd y Cadeirydd gwestiwn yngl?n â’r ail argymhelliad. Holodd beth fyddai’n digwydd i bopeth arall fyddai wedi bod yn rhan o’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wybod fod aelod o’i dîm wedi bod yn nodi eitemau oedd yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol o’r cyn Bwyllgorau Trosolwg ac Archwilio'r Amgylchedd a Chymuned a Menter, o ran eitemau parhaus fyddai’n cael eu bwydo i’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer y Pwyllgor. Byddai pwyslais ar eitemau adfer, ond byddai’r rhaglen gwaith i’r dyfodol hefyd yn cydnabod fod angen dod ag eitemau rheolaidd o flaen y Pwyllgor ac hefyd materion yn ymdrin â swyddogaethau rheolaethol.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod angen meddwl am y risgiau ... view the full Cofnodion text for item 8