Mater - cyfarfodydd
Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 4)
Cyfarfod: 28/09/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 8)
8 Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 4) PDF 75 KB
Pwrpas: Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am sefyllfa fonitro Cyllideb Refeniw 2020/21 ym Mis 4.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 4), eitem 8 PDF 133 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 4)
Cofnodion:
Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad a oedd yn cwmpasu’r materion allweddol canlynol:
- Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21
- Monitro Cyllideb 2020/21 – Rhagdybiaethau
- Treth y Cyngor a Chynllun Lleihau Treth y Cyngor
- Y diweddaraf ar hawliadau – costau ychwanegol
- Y diweddaraf ar hawliadau – colled incwm
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol gopi o'r adroddiad ar Fonitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 4) a gyflwynwyd i'r Cabinet ar 22 Medi 2020 ac a atodwyd i'r adroddiad.
Cwestiynodd y Cynghorydd Richard Jones yr wybodaeth a ddarparwyd o dan amrywiannau sylweddol y mis hwn a chyfeiriodd at y wybodaeth yn Nhabl 1 yr adroddiad o dan Gwasanaethau Stryd a Chludiant. Yn ei ymateb eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod dadansoddiad llawn o'r ffigurau a ddarparwyd wedi'i nodi yn atodiad 1 yr adroddiad. Awgrymodd y Cynghorydd Jones y dylid ychwanegu colofn ychwanegol at Dabl 1 i adrodd ar lefel incwm - dros/o dan (gorwariant a thanwariant mewn blwyddyn). Yn ei ymateb cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i roi ystyriaeth bellach i'r awgrym ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol.
Gan gyfeirio at y sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Jones, nododd y Prif Weithredwr enghraifft o sut roedd y Cyngor wrthi'n rheoli risg yn y maes Gwasanaethau Stryd a Chludiant. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor mewn trafodaethau â Llywodraeth Cymru i adfer colled incwm lle bo hynny'n bosibl. Fodd bynnag, mae’n debyg na fydd pob hawliad yn gymwys.
Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Richard Jones a'i eilio'n briodol.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried yr Adroddiad Monitor Cyllideb Refeniw 2020/21 (mis 4), cadarnhaodd y Pwyllgor nad oedd unrhyw faterion penodol y mae’n dymuno adrodd i’r Cabinet.