Mater - cyfarfodydd
Flintshire Local Development Plan – Consideration of Deposit Consultation Representations and Responses and Submission for Public Examination
Cyfarfod: 29/09/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 10)
Pwrpas: Bod yr Aelodau yn ystyried ac yn cytuno ar yr ymatebion i’r sylwadau a gafwyd yn ystod yr ymarfer ymgynghori ynghylch y CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd ac yn cytuno i gyflwyno’r cynllun i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio at ddibenion archwiliad cyhoeddus yr Arolygydd Cynllunio Annibynnol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 2 - List of Deposit documents made available for consultation, eitem 10 PDF 56 KB
- Enc. 3 - WG response to the Deposit LDP, eitem 10 PDF 651 KB
- Enc. 4 - Report to PSG on 30-07-20, eitem 10 PDF 304 KB
- Enc. 5 - Typical Schedule of LDP process from submission to issuing of Inspector's final report, eitem 10 PDF 68 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint - Ystyried Sylwadau’r Ymgynghoriad ynghylch y Ddogfen i'w Harchwilio Gan y Cyhoedd a Chyflwyno’r Cynllun ar gyfer Archwiliad Cyhoeddus
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad er mwyn i’r Aelodau ystyried a chytuno ar ymateb y Cyngor i’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymarfer ymgynghori ynghylch y CDLl.Mae hwn yn gam allweddol tuag at gyflawni un o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor, sef mabwysiadu’r CDLl ac mae’r ddogfen wedi bod yn destun proses graffu faith gan y Gr?p Strategaeth Cynllunio trawsbleidiol. Un o flaenoriaethau'r gr?p hwn yw gwarchod tir rhwystr glas a ffiniau aneddiadau ble bynnag y bo’n bosibl.Os yw’r Aelodau yn cytuno arno, bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio at ddibenion Archwiliad Cyhoeddus gan Arolygydd Cynllunio annibynnol, gan ddarparu cyfle i dderbyn rhagor o sylwadau yn ôl disgresiwn yr Arolygydd.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Strategaeth gyflwyniad gan ymdrin â’r meysydd canlynol:
· Pwrpas
· Y CDLl i’w Archwilio gan y Cyngor, Cynllun y Cyngor
· Prif elfennau strategaeth y cynllun
· Dyraniadau tai y CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd
· Ymgynghoriad ynghylch y CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd
· Gwaith y Gr?p Strategaeth Cynllunio
· Ystyried sylwadau
· Y prif faterion a godwyd
· Pwysau
· Map rhwystr glas cymharol enghreifftiol
· Cyflwyno’r Cynllun
· Sesiynau briffio ar gyfer Aelodau ac argymhelliad y Cabinet
Amlygodd y cyflwyniad y manteision amrywiol a geir wrth fabwysiadu Cynllun, y dull ar gyfer ymateb i sylwadau a’r gwasgariad eang o safleoedd mewn aneddiadau cynaliadwy - rhai ohonynt yn safleoedd posibl ar gyfer datblygiad cynnar.Elfen allweddol o’r broses oedd cyfraniad y Gr?p Strategaeth Cynllunio at graffu ar y cynnydd a gwneud argymhellion i’r Cabinet, sydd erbyn hyn wedi’u cyflwyno i’r Cyngor er cymeradwyaeth. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth nad oedd Llywodraeth Cymru wedi dod ar draws unrhyw broblem sylfaenol gyda chadernid y Cynllun ac nad oedd darparwyr isadeiledd/budd-ddeiliaid allweddol wedi mynegi unrhyw wrthwynebiad mawr. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i ddatrys pryderon perygl llifogydd ar bum safle cyflogaeth bychan.Yn fras, ar ôl ystyried yr holl sylwadau a’r dystiolaeth, nid oes newidiadau sylweddol yn cael eu hargymell ar gyfer y Cynllun dim ond mân waith golygu a newid ambell i eiriad.
Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion a'u tîm, ynghyd ag aelodau’r Gr?p Strategaeth Cynllunio, am eu gwaith ar y mater hwn.
Yn ystod yr eitem, diolchodd nifer o Aelodau i’r swyddogion ac i aelodau’r Gr?p Strategaeth Cynllunio am eu hymrwymiad i’r broses faith o gynhyrchu cynllun cadarn.
Fel Cadeirydd y Gr?p Strategaeth Cynllunio, cynigiodd y Cyng. Bithell yr argymhellion - sydd wedi’u cefnogi gan y Cabinet, ac amlygodd bwysigrwydd bwrw ymlaen â mabwysiadu CDLl ar gyfer Sir y Fflint.
Fel Is-Gadeirydd y Gr?p Strategaeth Cynllunio, eiliodd y Cyng. Peers y cynnig ac ategu’r sylwadau cadarnhaol am waith y rheiny sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r broses.Cyfeiriodd at wrthdaro posibl gyda'r ymateb i’r cynnig i newid safle ymgeisiol yn safle tai a gofynnodd a oes modd adolygu hyn cyn i’r Cyngor gyhoeddi ei ymateb llawn.Diolchodd i’r swyddogion am egluro’r newidiadau i’r rhwystrau glas a gofynnodd a ... view the full Cofnodion text for item 10