Mater - cyfarfodydd

Recovery Strategy

Cyfarfod: 22/09/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 7)

7 Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor ac ailadeiladu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21 gyda chanolbwynt penodol ar gynllunio adferiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi trosolwg i’r Pwyllgor o gynllunio adferiad ar gyfer ei feysydd portffolio yn rhan o’r strategaeth er mwyn ailgychwyn y broses lywodraethu ddemocrataidd llawn. Byddai adborth o bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am y cofrestri risg, y blaenoriaethau adferiad a thargedau dangosydd perfformiad diwygiedig ar gyfer eu meysydd yn cael eu hadrodd i’r Cabinet cyn cyhoeddi’r Strategaeth Adferiad llawn.

 

Cafwyd cyflwyniad oedd yn dangos y trosglwyddiad o ymateb i adferiad am y pwyntiau canlynol:

 

·         Argymhellion gan y Cabinet

·         Amcanion y Strategaeth Adferiad

·         Amcanion yr ymateb

·         Enghreifftiau o gyflawniadau lleol wrth ymateb

·         Adferiad – trefniadau trosglwyddo

·         Strwythurau adferiad rhanbarthol a lleol

·         Amcanion adferiad - Gwasanaethau

·         Gweithgareddau adferiad

·         Adferiad cymunedol

·         Cynllun a pherfformiad y Cyngor

·         Llywodraethu adferiad yn ddemocrataidd

 

Ymysg y prif gyflawniadau yn ystod y cyfnod ymateb, oedd dosbarthu cyfarpar diogelu personol, diolch i ymdrechion Vanessa Johnson, Steve Featherstone a’u tîm.O ran Adferiad Cymunedol, byddai adroddiadau am waith cydweithredol ar Anghydraddoldeb, Plant a Phobl Ifanc ac Iechyd Meddwl a Lles yn dod nôl i’r Pwyllgor iddynt gael eu hystyried.O ran perfformiad, er na fu hi’n bosibl mabwysiadau Cynllun y Cyngor ar gyfer 2020/21 yn sgil sefyllfa’r argyfwng, mae gwaith wedi parhau ar y Cynllun treigl er mwyn tynnu’r blaenoriaethau allweddol allan i’w mabwysiadu i gefnogi’r adferiad. Gofynnir i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ail-lunio eu rhaglenni gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn 2020/21 gyda ffocws penodol ar gynllunio adferiad i gefnogi ailgychwyn y broses lywodraethu ddemocrataidd llawn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd am wasanaethau maethu a mabwysiadu, rhoddodd yr Uwch Reolwr:Plant sicrwydd am waith parhaol a buddsoddiad yn y gwasanaethau hynny sy’n ffurfio rhan o fusnes craidd y portffolio.

 

Diolchodd y Cynghorydd Gladys Healey i’r Prif Weithredwr a thîm swyddogion am eu gwaith.Gan ymateb i gwestiwn, rhoddodd swyddogion wybodaeth am barhad gwasanaethau ar gyfer gofalwyr ifanc a’r fenter i ddatblygu cerdyn adnabod ar gyfer mynediad blaenoriaeth i wasanaethau fel rhan o’u rôl.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) gyflwyniad am y gofrestr risg ar gyfer portffolio’r gwasanaeth oedd yn ymdrin â’r canlynol:

 

·         Risgiau Gwasanaethau Cymdeithasol

·         Ariannol

·         Gweithlu

·         Rheoleiddio Allanol

·         Gwasanaethau Oedolion

·         Gwasanaethau Plant

·         Gwasanaethau Oedolion a Phlant

 

Roedd y sefyllfa risg gyffredinol yn bositif gyda gostyngiad yn nifer y risgiau coch ers mis Mehefin a chynnydd yn nifer y risgiau oedd yn gostwng neu wedi dod i ben.Tra bod gwariant ar leoliadau y tu allan i’r sir wedi parhau yn faes blaenoriaeth, mae cydweithio gyda phartneriaid a datblygu datrysiadau amgen wedi helpu i leihau gwariant yn ystod y cyfnod.Cafodd rhai risgiau eu nodi sydd yn allweddol i adferiad, megis bodloni anghenion cleientiaid sydd wedi’u rhyddhau o’r ysbyty oedd yn dangos tueddiad gwell gan fod cleifion sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty bellach yn cael eu prosesu’n effeithiol gan gydweithwyr ym maes Iechyd.Yng Ngwasanaethau Plant, parhaodd y tîm i weithio gyda’r adran Addysg i gefnogi’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod oedd yn parhau i fod yn risg coch, serch hynny  ...  view the full Cofnodion text for item 7