Mater - cyfarfodydd

Recovery Strategy (Planning, Environment & Economy Portfolio)

Cyfarfod: 21/09/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 7)

7 Strategaeth Adferiad (Portffolio Cynllunio, Amgylchedd ac Economi pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor ac ailadeiladu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21 gyda chanolbwynt penodol ar gynllunio adferiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi trosolwg i’r Pwyllgor o gynllunio adferiad ar gyfer ei feysydd portffolio yn rhan o’r strategaeth er mwyn ailgychwyn y broses lywodraethu ddemocrataidd llawn.  Byddai adborth o bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am y cofrestrau risg, y blaenoriaethau adferiad a thargedau dangosydd perfformiad diwygiedig ar gyfer eu meysydd yn cael eu hadrodd i’r Cabinet cyn cyhoeddi Strategaeth Adferiad lawn.

 

Cafwyd cyflwyniad oedd yn dangos y trosglwyddiad o ymateb i adferiad am y pwyntiau canlynol:

 

·         Argymhellion gan y Cabinet

·         Amcanion y Strategaeth Adferiad

·         Amcanion yr Ymateb

·         Enghreifftiau o gyflawniadau lleol wrth Ymateb

·         Adferiad – trefniadau trosglwyddo

·         Strwythurau Adferiad Rhanbarthol a Lleol

·         Amcanion Adferiad - Gwasanaethau

·         Gweithgareddau Adferiad

·         Adferiad Cymunedol

·         Cynllun a Pherfformiad y Cyngor

·         Llywodraethu Adferiad yn Ddemocrataidd

 

Aeth y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) drwy'r rhan o'r adroddiad sy'n ymdrin ag Adferiad Cymunedol, ac roedd wedi ei rannu yn ddau is-gr?p Economi a Phobl Ddiamddiffyn a Thlodi.  Rhoddodd gefndir pellach yngl?n â’r gr?p Adferiad Cymunedol Is-ranbarthol, sydd yn fenter Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus ar y cyd rhwng Sir y Fflint a Wrecsam.  Roedd pedair thema adferiad wedi eu nodi er mwyn gweithredu arnynt a dywedodd fod Arweiniad ar y Cyd o ran ffrwd waith yr Amgylchedd a Lleihau Carbon. Rhoddodd ddwy enghraifft o’r hyn yr oedden nhw’n ei gynnig er mwyn helpu’r Amgylchedd; Llefydd Gwyrdd er mwyn gwella ansawdd, defnydd o ddarpariaeth, hygyrchedd er mwyn hyrwyddo llefydd gwyrdd, ac yn ail Lleihau Carbon er mwyn mynd i’r afael â heriau newid hinsawdd ar lefel leol.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at Gynllun y Cyngor a gaiff ei ddiweddaru’n flynyddol ond oherwydd y tarfu a fu yn yr argyfwng, a gychwynnodd ganol Mawrth, ni chafodd ei gyflwyno ym mis Ebrill.  Eglurodd fod y Cabinet wedi tynnu ohono ac wedi diweddaru pethau allweddol oedd yn hanfodol i adferiad rhwng r?an a’r gwanwyn nesaf, pan fyddai’r Cyngor a’i Wasanaethau, gobeithio, yn gallu cael eu hadsefydlu oherwydd y tarfu mawr, a chyflwynodd Gynllun drafft y Cyngor wedi ei atodi i’r adroddiad.

 

Hefyd ynghlwm roedd fersiwn wedi ei diweddaru o’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn ymwneud â’r ddau bortffolio yn dangos ble roedd rhaid gwneud newidiadau i uchelgais a thargedu oherwydd y tarfu gan yr argyfwng neu oherwydd bod peth o’r data bellach yn amherthnasol.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) beth oedd ffurf yr adroddiad oedd yn seiliedig ar Adfer Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi yn unig, ynghyd â 4 atodiad ynghlwm.  Cyfeiriodd at yr 14 amcan adferiad a rhestrwyd, oedd wedi eu gosod ym mis Gorffennaf 2020 a’u bod eisoes wedi mynd i’r afael â rhai ohonynt.

 

Adroddodd fod mwyafswm y portffolio heb ei ddynodi’n wasanaethau hanfodol, er eu bod yn dal i weithio, ac eithrio Safonau Masnach, Trwyddedu, Swyddogaethau Iechyd yr Amgylchedd a Swyddogaethau Diogelwch Bwyd yn ogystal ag Iechyd a Diogelwch, oedd yn cynorthwyo gyda sefydlu model Cyfarpar Diogelu Personol a phob un ohonynt yn gorfod parhau.

 

Nododd  risgiau:-

·         20 risg agored dros Reoli Portffolio, Gweithlu, Rheoliadau Allanol, TGCh  ...  view the full Cofnodion text for item 7