Mater - cyfarfodydd

Recovery Strategy

Cyfarfod: 28/09/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 7)

7 Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor ac ailadeiladu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21 gyda chanolbwynt penodol ar gynllunio adferiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i ddarparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor ac ailadeiladu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21 gyda chanolbwynt penodol ar gynllunio adferiad.

 

Arweiniodd y Prif Weithredwr gyflwyniad cynhwysfawr a oedd yn ymdrin â'r meysydd allweddol canlynol ar y Strategaeth Adferiad:

 

  • pwrpas
  • argymhellion
  • amcanion y strategaeth adferiad
  • cronoleg leol
  • amcanion yr ymateb
  • rhai cyflawniadau lleol wrth ymateb
  • amcanion adferiad - trefn
  • amcanion adferiad - gwasanaeth
  • gweithgareddau adferiad
  • Cynllun a pherfformiad y Cyngor
  • Llywodraethu adferiad yn ddemocrataidd
  • amcanion adferiad

 

Mewn ymateb i bryder a godwyd gan y Cynghorydd Richard Jones ynghylch Cynllun y Cyngor a chadw at y gyllideb, rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd nad oedd unrhyw beth wedi'i adael yn y Cynllun oherwydd y Strategaeth Adferiad, a gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried meysydd a oedd fwyaf perthnasol yn y 6 i 12 mis nesaf.  

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndir gan wneud cyflwyniad ar Ddadansoddiad y Gofrestr Risg Gorfforaethol a oedd yn cwmpasu'r pwyntiau allweddol canlynol:

 

  • tueddiad risg agored a chaeedig
  • dadansoddiad o statws y risg gyfredol
  • dadansoddiad o statws tueddiad y risg

 

 

Gwahoddodd y Prif Weithredwr y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Dylunio Sefydliad, a'r Prif Swyddog (Llywodraethu) i gyflwyno'r gofrestr risg a chamau lliniaru risg ar gyfer eu portffolios gwasanaeth (Cyllid, y Gweithlu a Llywodraethu).

 

Yn ystod ei gyflwyniad, ymatebodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i’r cwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom.Roedd hyn yn ymwneud â fforddiadwyedd gorfod benthyca yn gynharach i ariannu'r rhaglen gyfalaf oherwydd bod y lefel o gronfeydd wrth gefn yn is.Teimlai fod hyn yn risg. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod cronfeydd wrth gefn yn gadarnhaol a bod y rhaglen gyfalaf yn gwario llai na'r swm a gyllidebwyd.Mewn ymateb i'r cwestiwn pellach a godwyd gan y Cynghorydd Heesom, cadarnhaodd y Swyddog nad oedd unrhyw ofyniad benthyca ychwanegol ar gyfer y flwyddyn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'r Gofrestr, gyda dadansoddiad cyd-destunol, yn cael ei rhoi gerbron y Pwyllgor bob mis i'w hadolygu.

 

Yn ogystal, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ymateb manwl i'r sylwadau a'r cwestiynau pellach a godwyd gan y Cynghorydd Richard Jones ynghylch y risgiau i gronfeydd wrth gefn (CF06, CF07) a'r cynnydd mewn costau gan gyflenwyr am nwyddau a gwasanaethau oherwydd cyflenwad a galw, a strategaethau adfer busnes (CF10). 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai adroddiadau penodol ar rai o'r risgiau cyllid yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor yn y dyfodol agos i'w hystyried yn fanwl. 

 

Gan gyfeirio at y risgiau a nodwyd o dan y pennawd Gweithlu, gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones a oedd y cynnig i staff addysgu ym mhob ysgol gael brechiadau ffliw wedi’i ariannu gan y Cyngor yn cael ei ddatblygu.   Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Dylunio Sefydliad fod y Cyngor wedi archebu 4,500 o frechiadau a chynghorodd fod athrawon ysgol a gweithwyr allweddol wedi'u cynnwys yn y rhaglen a bod y Tîm Iechyd Galwedigaethol yn paratoi i ddarparu'r cynllun. Aeth yn ei blaen i ddweud bod  ...  view the full Cofnodion text for item 7