Mater - cyfarfodydd
Childcare Capital Grant Update
Cyfarfod: 22/09/2020 - Cabinet (eitem 15)
15 Wybodaeth Ddiweddaraf am Grant Cyfalaf Gofal Plant PDF 112 KB
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Cabinet am gynnydd o ran gweithredu rhaglen Gyfalaf Gofal Plant y Cyngor, gan gynnwys y sail resymegol a ddefnyddiwyd i flaenoriaethu prosiectau.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Prioritisation Scoring Framework for Childcare Capital Programme, eitem 15 PDF 54 KB
- Appendix 2 - Project Scoring Outcome, eitem 15 PDF 45 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Wybodaeth Ddiweddaraf am Grant Cyfalaf Gofal Plant
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn darparu manylion ar y cynnydd o ddarparu Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant, gan gynnwys rhesymwaith a ddefnyddiwyd i flaenoriaethu prosiectau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cyllid grant Cyfalaf ar gael i gefnogi darpariaeth Gofal Plant. Mae prosiectau wedi’u blaenoriaethu er mwyn alinio â’r dyraniad cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae dull cydlynol ar waith i uno ystod o becynnau cyllid cyfalaf i greu un rhaglen er mwyn gwneud y gorau o’r buddsoddiad. Mae’r rhaglen yn cydlynu’r ffrydiau ariannu canlynol:Grant Gofal Plant LlC, Grant Cyfrwng Cymraeg LlC, Ysgolion yr 21ain Ganrif, Dechrau'n Deg a chyllid cyfalaf Cyngor Sir y Fflint.
Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod y Cyngor yn croesawu’r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn y prosiectau cyfalaf a fyddai’n cefnogi plant a’u teuluoedd yn gadarnhaol drwy sicrhau bod mynediad cynyddol at ddarpariaeth blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel. Cadarnhaodd y gellir symud Ysgol y Llan Gwirfoddol a Gynorthwyir, Whitford, o’r rhestr ‘wrth gefn’ i’r rhestr ‘prosiectau a gymeradwywyd’ a chytunwyd bod hyn yn ffurfio rhan o'r penderfyniad.
Awgrymodd y Cynghorydd Roberts bod argymhelliad ychwanegol, bod y penderfyniad ar Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir ac Ysgol yr Esgob, yn cael ei ohirio tan y mis blaenorol i ganiatáu amser i gyflwyno unrhyw dystiolaeth newydd, a chefnogwyd hyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod cynnwys yr adroddiad hwn yn cael ei nodi a bod y gefnogaeth yn cael ei gadarnhau ar gyfer y meini prawf i flaenoriaethu prosiectau o fewn y rhaglen.
(b) Bod dull ar sail rhaglen a oedd yn alinio ffrydiau ariannu i gydlynu a gwella cyfleoedd ariannu yn cael ei ardystio.
(c) Bod y penderfyniad ar Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir ac Ysgol yr Esgob, yn cael ei ohirio tan y mis ganlynol i ganiatáu amser i gyflwyno unrhyw dystiolaeth newydd, a chefnogwyd hyn.
(d) Bod Ysgol y Llan Wirfoddol a Gynorthwyir, Whitford yn cael ei symud o’r rhestr ‘wrth gefn’ i’r rhestr ‘prosiectau a gymeradwywyd’.