Mater - cyfarfodydd
Ysgol Castell Alun - Capital Investment Project
Cyfarfod: 22/09/2020 - Cabinet (eitem 18)
18 Ysgol Castell Alun - Prosiect buddsoddi cyfalaf
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth i ymrwymo i gontract adeiladu gyda chwmni adeiladu Wilmott Dixon ar gyfer y prosiect buddsoddi cyfalaf yn yr ysgol wedi’i ariannu trwy raglen gyfalaf y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i ymrwymo i gontract adeiladu gyda chwmni adeiladu Wilmott Dixon ar gyfer y prosiect buddsoddi cyfalaf yn yr ysgol wedi’i ariannu trwy raglen gyfalaf y Cyngor
Mae’r prosiect Buddsoddi Cyfalaf yn Ysgol Castell Alun wedi’i gynnwys yn Rhaglen Gyfalaf y Cyngor, mae rheolau caffael yn ei gwneud yn ofynnol i brosiectau dros werth penodol gael cymeradwyaeth y Cabinet i barhau.
PENDERFYNWYD:
(a) Cabinet yn cymeradwyo mynd i gytundeb gyda Willmott Dixon ar gyfer cyfnod adeiladau prosiect buddsoddiad yn Ysgol Castell Alun;
(b) Cymeradwyo diwygiad y cwmpas prosiect i ddod yn unol â’r cyllideb sydd ar gael; a
(c) Bod cynhwysiant o'r eitemau sydd wedi’u tynnu o'r prosiect fel opsiynau cost o fewn y cytundeb ar gyfer adferiad posibl os yw cyllideb ar gael i'w chymeradwyo.