Mater - cyfarfodydd
Terms of Reference of the Committee
Cyfarfod: 24/09/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 6)
6 Cylch Gorchwyl y Pwyllgor PDF 85 KB
Pwrpas: Cael cylch gorchwyl y Pwyllgor newydd fel a gytunwyd gan y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Hwylusydd Pwyllgor Craffu a Throsolwg yr adroddiad i dderbyn cylch gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor fel y cytunwyd gan y Cyngor. Yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor, penodwyd Cadeiryddion i’r pump Pwyllgor Trosolwg a Chraffu o fewn y strwythur newydd gyda chylch gorchwyl diwygiedig. Roedd newidiadau i gylch gwaith y Pwyllgor hwn yn cynnwys ychwanegu Llyfrgelloedd, Diwylliant a Threftadaeth (yn cynnwys Archifau ac Amgueddfeydd), Gwasanaethau Hamdden (yn cynnwys canolfannau hamdden a chwaraeon, pyllau nofio a chyfleusterau hamdden), Theatr Clwyd ac Aura (yn cynnwys Canolfan Hamdden Treffynnon a Cambrian Aquatics).
Cynigiodd y Cynghorydd David Hytch yr argymhelliad a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Martin White.
PENDERFYNWYD:
Bod y cylch gorchwyl, fel y cytunwyd arno gan y Cyngor ac sydd yn atodiad i’r adroddiad, yn cael ei nodi.