Mater - cyfarfodydd
Terms of Reference of the Committee
Cyfarfod: 28/09/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 6)
6 Cylch Gorchwyl y Pwyllgor PDF 85 KB
Pwrpas: Cael cylch gorchwyl y Pwyllgor newydd fel a gytunwyd gan y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Overview & Scrutiny Committee Terms of Reference, eitem 6 PDF 64 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cylch Gorchwyl y Pwyllgor
Cofnodion:
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod strwythur y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu newydd wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor ar 27 Chwefror 2020. Yn y Cyfarfod Blynyddol ar 9 Medi, penodwyd Cadeiryddion i'r pum pwyllgor o fewn y strwythur newydd.
Nodwyd cylch gorchwyl priodol pob un o'r Pwyllgorau a'r prif gyfranwyr tuag atynt yn Atodiad 1 yr adroddiad. Tynnodd y Swyddog sylw at gylch gorchwyl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a dywedodd fod y rhain yn aros yr un fath. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Pwyllgor wedi cadw Cynllunio Brys o fewn ei swyddogaethau.Roedd hyn yn arbennig o briodol o ystyried y pandemig parhaus a'i effaith ar gyllid y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin gymeradwyo’r argymhellion ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Paul Shotton.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn derbyn ei gylch gorchwyl fel y cytunwyd gan y Cyngor ac fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.