Mater - cyfarfodydd
Bus Network Review Update
Cyfarfod: 22/09/2020 - Cabinet (eitem 14)
14 Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Adolygiad o’r Rhwydwaith Bysiau PDF 103 KB
Pwrpas: Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am gynnydd ailgyflwyno'r Trefniadau Cludo Lleol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Bus Network Review Update, eitem 14 PDF 3 MB
- Appendix 2 - Bus Network Review Update, eitem 14 PDF 2 MB
- Appendix 3 - Bus Network Review Update, eitem 14 PDF 87 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Adolygiad o’r Rhwydwaith Bysiau
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ac eglurodd nad oedd gan y Cyngor rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau bysiau lleol nag unrhyw ffurf arall o gludiant cyhoeddus. Fodd bynnag, roedd gan y Cyngor ddyletswydd statudol i adolygu’r rhwydwaith bysus ac ymyrryd pan mae’n teimlo bod hynny’n briodol.
Mae wedi bod yn flaenoriaeth gan Gyngor Sir y Fflint i ymdrechu i gynnal gwasanaeth cludiant bysiau cyhoeddus gan fydd effaith eu colli yn effeithio ar y rhai mwyaf diamddiffyn yn y gymdeithas. Ym mis Gorffennaf 2018 cymeradwyodd y Cabinet fodel cludiant newydd ar gyfer gwasanaethau bysiau, a oedd yn cynnwys rhwydwaith bysiau craidd wedi’i gefnogi gan Drefniadau Teithio Lleol cynaliadwy. Mae’r rhwydwaith craidd yn cynnwys nifer o gyrchfannau (canolfannau) allweddol, fel prif drefi neu gyfnewidfeydd cludiant cyhoeddus / gorsafoedd rheilffordd â chysylltiad uniongyrchol a rheolaidd gyda gwasanaethau bysiau sy’n rhedeg rhwng y canolfannau i gysylltu teithwyr â chyrchfannau allweddol eraill i gael mynediad at addysg, cyflogaeth, siopau a chyfleusterau iechyd, cymdeithasol a hamdden. Mae’r rhwydwaith craidd yn cynnwys gwasanaethau bysiau masnachol yn bennaf. Fodd bynnag, mae rhywfaint o gefnogaeth yn parhau i gael ei ddarparu i sicrhau bod cysylltiadau yn cael eu cadw a bod gwasanaethau rheolaidd o ansawdd uchel yn parhau i gysylltu’r canolfannau allweddol ar hyd y rhwydwaith. Mae’r rhwydwaith craidd yma yn cael ei gefnogi gan Drefniadau Teithio Lleol cynaliadwy sydd wedi’u cyflwyno’n llwyddiannus mewn sawl ardal yn y sir.
Wrth i fwy o wasanaethau masnachol gael eu hatal gan weithredwyr, roedd angen cynnal adolygiad o'r gwasanaethau cludiant lleol presennol er mwyn gallu defnyddio'r gwasanaethau hynny’n well i ddarparu cysylltiadau cludiant hanfodol i breswylwyr wedi'u heffeithio gan golli’r gwasanaethau masnachol hyn. Mae COVID-19 yn amlwg wedi amharu ar yr adolygiad o’r Trefniadau Teithio Lleol. Ers i’r cyfnod clo ddod i ben, rydym ni wedi gorfod cael llai o deithwyr ar gerbydau a chyhoeddi amserlenni diwygiedig i fodloni gofynion teithwyr, ond mae pethau i’w gweld yn gweithio’n dda. Er ein bod ni yn y cyfnod adfer, mae gweithredwyr wedi adrodd cynnydd yn hyder defnyddwyr cludiant.
Roedd adolygiad o’r gwasanaethau Trefniadau Teithio Lleol yn Nhreffynnon a’r cymunedau cyfagos i fod i ddechrau heddiw, gan gynnwys treialu gwasanaeth Trafnidiaeth Seiliedig Ar Alw Fflecsi sydd yn cael ei dreialu hefyd yn Sir Ddinbych ac ardaloedd eraill o Gymru.
Roedd y Cynghorydd Thomas yn falch o adrodd bod y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer dau fws trydan i’w ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau LT7 a LT4. Byddant yn cael eu cadw ym Mwcle a bydd y cerbydau hynny yn cael eu pweru gan ffynhonnell ynni'r haul y Cyngor ei hunain.
Mae adolygiad y Cyngor o Drefniadau Teithio Lleol yn parhau i fod yn broses barhaus ac mae cynigion pellach yn cael eu harchwilio ar gyfer y misoedd nesaf. Roedd yn sefyllfa sy’n newid ac yn achosi pryder gan fod mwy o weithredwyr yn cael trafferthion i wneud i deithiau weithio’n fasnachol ac roeddynt yn dod â chontractau i ben.
Roedd Llywodraeth Cymru yn edrych i Drafnidiaeth Cymru oruchwylio gwasanaethau ... view the full Cofnodion text for item 14