Mater - cyfarfodydd

Suspension of Town Centre Car Parking Charges

Cyfarfod: 22/09/2020 - Cabinet (eitem 13)

13 Atal Taliadau Parcio Ceir dros dro yng Nghanol y Dref pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn atal taliadau parcio ceir dros dro yng nghanol y dref tan 31ain Rhagfyr 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ymestyn cyfnod atal ffioedd parcio meysydd parcio canol y dref tan 31 Rhagfyr 2020.

 

            Penderfynodd y Cyngor i atal y ffioedd Talu ac Arddangos yn y meysydd parcio ar draws y Sir o 25 Mawrth 2020. Gwnaethpwyd y penderfyniad i leihau cyswllt personol a'r risg o drosglwyddiad arwyneb o COVID-19/ coronafeirws o'r peiriannau, ac i gynorthwyo gweithwyr allweddol a siopa hanfodol yn ystod y cyfnod argyfwng. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i ganiatáu siopau nad ydynt yn hanfodol i agor o 22 Mehefin 2020, mae’r ffioedd maes parcio wedi parhau i gael eu hatal i gefnogi adferiad canol y dref ar ôl y cyfnod clo.

 

            Ceisiodd yr adroddiad gymeradwyaeth i barhau ag atal y ffioedd tan 31 Rhagfyr 2020 i gefnogi adfywio canol y dref ymhellach.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) mai bwriad y cynnig oedd i gefnogi gwaith y Cyngor i ailagor canol y trefi ac annog siopwyr ac ymwelwyr i ddychwelyd i ganol y dref. Bydd y dull hwn yn golygu y caiff pobl barcio am ddim dros gyfnod y Nadolig, a fydd hefyd yn cefnogi cynnydd yn nifer yr ymwelwyr.

 

            Argymhellir y dylai meysydd parcio arhosiad byr barhau i gael eu rheoli ar ffurf tocyn Talu ac Arddangos yn ffenestr y cerbyd i sicrhau bod y cerbydau yn defnyddio’r gofodau parcio agosaf at ganol y dref a bod yr holl gyfyngiadau eraill, fel arddangos bathodyn glas mewn bae barcio i bobl anabl, dal yn berthnasol.

 

            Ailadroddwyd y drafodaeth gynharach ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio ad-dalu ffioedd maes parcio o’r Ail Chwarter gyda’r un argymhelliad bod yr hawliau am golled incwm meysydd parcio ar gyfer yr Ail Chwarter a'r Trydydd Chwarter angen ei ymlid gyda Llywodraeth Cymru.

 

            Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad a dywedwyd bod busnesau lleol wedi ei dderbyn yn dda. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod ffioedd meysydd parcio ym meysydd parcio canol dref Sir y Fflint yn cael eu hatal tan 31 Rhagfyr 2020 yn cael ei gymeradwyo; a

 

(b)       Bod yr hawliadau am golled incwm meysydd parcio ar gyfer yr Ail Chwarter a’r Trydydd Chwarter yn cael ei ymlid gyda Llywodraeth Cymru.